Sut i ddod o hyd i gyllid ychwanegol yn y brifysgol
erthygl
5 munud yn darllen
Mae Ruth Bushiyn ysgrifennu am arian myfyrwyr a bywyd yn y brifysgol. Mae hi'n awdur sawl rhifyn o The Student Money Manual.
Gall ceisio cael dau ben llinyn ynghyd deimlo'n arbennig o heriol ar hyn o bryd. Mae yna bethau a all helpu. Mae'r dudalen hon yn esbonio ble i ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer costau byw.
I lawer o fyfyrwyr, gall rheoli arian yn y brifysgol fod yn frwydr anodd. Gall llawer o gostau fod yn ddrytach nag yr oeddech yn ei ddisgwyl, yn enwedig oherwydd newidiadau i gostau byw, ac efallai mai dyma'r tro cyntaf rydych chi wedi gorfod cyllidebu.
Peidiwch â phoeni. Erbyn diwedd yr erthygl hon, byddwch yn gwybod ble i chwilio am gymorth, cyngor neu arian ychwanegol ar gyfer costau byw.
Cofiwch, bydd yr hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar b’un a ydych yn fyfyriwr o’r DU, yr UE neu’n fyfyriwr rhyngwladol, a ph'un a ydych yn astudio ar sail llawn amser neu ran amser. Cysylltwch â'ch prifysgol os oes angen help arnoch i ddeall a ydych yn gymwys.
Rhowch gynnig ar y rhain yn gyntaf
Mae wir yn werth creu cyllideb. Mae hyn yn dangos sut rydych chi'n ymdopi'n ariannol, a gall helpu i nodi ffyrdd o gael dau ben llinyn ynghyd. Bydd rhai cyllidwyr yn gofyn i weld eich cyllideb, felly gallai gwneud hynny nawr gyflymu pethau.
Pethau eraill i'w cadw mewn cof:
Sicrhewch eich bod yn cadw cyfriflenni banc, dogfennau adnabod, gwaith papur cyllid myfyrwyr neu fanylion am incwm y cartref (eich aelwyd chi neu aelwyd eich rhieni) wrth law.
Heblaw am yr opsiynau arbennig a grybwyllir ar y dudalen hon, ceisiwch osgoi benthyca os ydych yn cael trafferth gydag arian neu eisoes yn cydbwyso dyledion.
Siarad â'ch prifysgol
Mae prifysgolion yn cynnig cymysgedd o’u cronfeydd cymorth eu hunain. Mae pob un yn gosod eu rheolau eu hunain, felly cysylltwch â'ch un chi i weld beth sydd ar gael ac i wneud cais.
Cronfeydd caledi
Weithiau gelwir y rhain yn gronfeydd Mynediad i Ddysgu. Maen nhw ar gael ar gyfer myfyrwyr y DU (ac weithiau’r UE) sy’n wynebu anhawster ariannol annisgwyl.
Mae’n bosibl y cynigir grantiau na fydd yn rhaid eu had-dalu, neu fenthyciadau di-log arbennig i chi. Mae gan rai prifysgolion gronfeydd arian cyfyngedig, felly byddwch yn barod i roi cynnig ar opsiynau eraill ar y dudalen hon hefyd.
Ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau
Mae'r rhain yn fathau o gymorth nad oes angen eu had-dalu. Mae rhai yn agored i fyfyrwyr rhyngwladol yn ogystal â myfyrwyr y DU a'r UE.
Fel arfer byddwch yn gwneud cais pan fyddwch yn dechrau eich cwrs. Os na wnaethoch hynny, gwiriwch beth sydd ar gael oherwydd efallai y byddwch yn gallu cael cymorth nawr neu ar gyfer blynyddoedd diweddarach.
Roedd ysgoloriaethau yn arfer gwobrwyo cyflawniad academaidd, chwaraeon neu gerddorol, ond mae llawer ohonynt bellach yn cynnig cymorth cyffredinol i bob myfyriwr, neu fyfyrwyr o gefndiroedd penodol hefyd.
Mae bwrsarïau a grantiau fel arfer yn dibynnu ar brofion modd, felly maent yn gysylltiedig ag incwm yr aelwyd.
Gwneud cais am gymorth ychwanegol
Os ydych yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol. Nid oes angen ad-dalu’r cronfeydd hyn, er bod rhai yn dibynnu ar brawf modd ar sail incwm yr aelwyd:
Mae llawer o'r rhain yn cael eu cyfrifo'n awtomatig pan fyddwch chi'n gwneud cais am eich cwrs. Ond os yw eich amgylchiadau wedi newid (er enghraifft, oherwydd bod incwm eich aelwyd wedi gostwng), efallai y byddwch bellach yn gymwys i gael cymorth ychwanegol. Dylech nodi unrhyw beth rydych yn credu y gallai fod yn berthnasol i dderbyn cymorth ariannol.
Mae hyn yn berthnasol i'r benthyciad cynhaliaeth hefyd. Cofiwch y gall taliadau fod yn araf, felly rhowch gynnig ar opsiynau eraill ar yr un pryd.
Chwiliwch am gronfeydd elusen
Mae rhai prifysgolion yn casglu ffynonellau cyllid at ei gilydd ar gyfer pob myfyriwr, nid dim ond eu myfyrwyr nhw. Mae'r adnoddau hyn gan LSE ac Ysgol Feddygol St George yn ddechrau da.
Gall yr offeryn darganfod grantiau, Turn2Us, eich helpu i ddod o hyd i gyllid fesul rhanbarth neu sefyllfa (gan gynnwys rhywedd, oedran, incwm isel a chenedligrwydd).