Gall dysgu ar-lein deimlo’n wahanol iawn i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ac efallai y byddwch yn teimlo bod hyn yn anodd i ddechrau. Ni fydd gennych chi bresenoldeb corfforol eich darlithwyr a chydfyfyrwyr i’ch cynnwys, ac ni fydd rhaid bod mewn ystafell ddosbarth ar amser penodol.
Efallai bod gennych chi bryderon am eich gallu i gynnal cymhelliant, deall y deunydd a chyflawni. Er hynny, nid yw’r ffaith eich bod yn teimlo fel hyn yn golygu na allwch fod yn llwyddiannus. Mae dysgu ar-lein yn sgil, ac fel pob sgil, gallwch ei gwella gydag amser.
Deuddeg cyngor ar gyfer dysgu ar-lein
1. Ceisiwch beidio â bod ar sgrin cyn y dosbarth
Mae gweithio gyda darlithwyr a chymryd rhan mewn dosbarthiadau ar sgrin yn fwy blinedig na gwneud hynny wyneb yn wyneb. Byddwch yn canolbwyntio ac yn dysgu’n well o gyrraedd eich dosbarth ar-lein yn ffres. Os yw hynny’n bosib, ceisiwch symud oddi wrth eich sgrin cyn y dosbarth – bydd rhai munudau o help.
2. Trin dosbarthiadau ar-lein fel dosbarthiadau ar gampws
Mae eich dysgu’n elwa o ddisgyblaeth a strwythur, ar-lein ai peidio. Gwnewch bob dosbarth yn apwyntiad a’i warchod cymaint â phosib. Efallai y byddwch yn gallu dysgu’n well o wisgo a pharatoi eich hun fel pe baech yn mynd i’r brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi cyn i’r dosbarth ddechrau a bod popeth wrth law gennych chi.
3. Neilltuo gofod i astudio
Gall hyn fod yn anodd os ydych chi’n byw, yn cysgu ac yn astudio yn yr un ystafell. Gall rhannu eich ystafell yn fathau o weithgarwch eich helpu i ganolbwyntio pan rydych yn astudio, ymlacio pan rydych yn gorffwyso a chysgu pan rydych yn mynd i’r gwely.
4. Dileu ymyriadau
Diffoddwch eich ffôn yn ystod y dosbarth. Mae ymchwil wedi dangos bod rhoi eich ffôn ymlaen yn gallu lleihau eich gallu i ganolbwyntio, hyd yn oed os nad ydych yn edrych arno. Gwnewch yr un peth gyda dyfeisiadau eraill: cloi eich hun allan o gyfryngau cymdeithasol ac unrhyw safleoedd eraill sy’n tynnu eich sylw nes bod y dosbarth wedi dod i ben.
5. Gwneud nodiadau
Mae ymchwil wedi dangos bod gwneud nodiadau yn y dosbarth yn gwella eich dysgu a’ch gallu i gofio. Gallwn gynyddu’r budd yma drwy ailysgrifennu eich nodiadau ar ôl y dosbarth fel eu bod yn gliriach. Nodwch unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall er mwyn gallu edrych arno yn nes ymlaen.
6. Cymryd rhan
Os ydych yn gwylio’r ddarlith neu’r dosbarth heb gymryd rhan, gall fod yn hawdd tynnu eich sylw neu fethu dilyn yn iawn. Cymerwch ran mewn ymarferion a thrafodaethau. Os yw’n bosib, gofynnwch gwestiynau neu feddwl am ffyrdd i chi gysylltu beth rydych yn ei ddysgu â gwybodaeth sydd gennych chi eisoes.
7. Ailwylio’n strategol
Un o fanteision dosbarthiadau ar-lein yw eich bod yn gallu gwylio darlithoedd eto. Efallai nad oes raid i chi ailwylio’r ddarlith gyfan: gallwch flaenoriaethu’r rhannau oedd yn llai clir i chi. Os ydych yn gwylio’r ddarlith ar-lein, nodwch amser y pethau rydych eisiau edrych arnynt eto.
8. Defnyddio’n gyflym
Po fwyaf rydyn ni’n gweithio gyda gwybodaeth a dealltwriaeth newydd, y mwyaf rydyn ni’n eu cofio. Tybed allwch chi feddwl am ffyrdd o ddefnyddio beth rydych chi wedi’i ddysgu ym mhob dosbarth. Gall ymarferion bach neu ddarnau ysgrifennu byrion helpu.
9. Trafod gyda’ch cydfyfyrwyr
Efallai bod gan eich rhaglen chi fforwm trafod ar-lein lle gallwch siarad am gynnwys eich cwrs gyda’ch cydfyfyrwyr. Manteisiwch ar y cyfleoedd hyn os yw hynny’n bosib, oherwydd bydd y trafodaethau hyn yn dyfnhau eich dysgu. Os nad yw’r cyfleoedd hyn yn cael eu trefnu, efallai y byddwch eisiau trefnu cyfarfod gyda’ch cydfyfyrwyr (yn rhithiol neu wyneb yn wyneb).