Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Gall dod o hyd i ffyrdd o reoli eich amser fod yn bwysig i'ch llesiant a'ch perfformiad academaidd. Mae hyn yn wir p'un a oes gennych lawer o ymrwymiadau sy'n gwasgu'ch amser neu lawer o amser rhydd. Gall ychydig o gynllunio a rhai camau syml helpu i wneud hyn yn haws.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall sut rydych chi’n profi amser yn y brifysgol amrywio'n fawr. Mae’n bosibl bod gennych chi ymrwymiadau niferus fel gwaith â thâl, astudio, cyfrifoldebau gofalu a lleoliadau sy’n cystadlu am eich sylw. Neu efallai fod gennych chi lawer o amser anstrwythuredig ond rywsut yn gweld nad ydych chi byth yn cyflawni pethau yn y ffordd yr oeddech yn ei ddisgwyl. Efallai hefyd, yn dibynnu ar eich cwrs a’ch amgylchiadau, y byddwch yn symud rhwng cyfnodau prysur iawn a chyfnodau heb lawer i’w wneud.
Pan fyddwn yn teimlo nad yw ein hamser dan ein rheolaeth, gall deimlo'n straen ac yn llethol, gan effeithio ar ein hwyliau a'n meddyliau. Gall y teimladau hyn arwain at oedi a cholli amser, sy'n effeithio ar ein gallu i reoli amser a hefyd at berffeithiaeth a all gael effaith sylweddol ar ein gallu i reoli ein hamser hefyd. Gall cymryd mwy o reolaeth dros eich amser helpu i wella eich hwyliau a'ch llesiant a helpu i hybu eich dysgu.
Cynllunio
Des dim clociau yn ein pen ac mae llawer ohonom yn cael monitro amser yn anodd. Gall amser fynd heibio yn gyflymach neu'n arafach nag yr ydym yn sylweddoli. Gall cynllunio eich helpu i gadw rheolaeth dros amser a theimlo'n fwy cynhyrchiol.
Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd – gall ysgrifennu rhestrau o bethau i’w gwneud, amserlenni neu ddefnyddio’ch ffôn fod o gymorth. Ceisiwch edrych yn realistig ar yr amser sydd gennych mewn gwirionedd a'r hyn sydd angen i chi ei wneud - heb anghofio dod o hyd i fwlch i gynnal eich llesiant. Mae cymryd peth amser i ysgrifennu amserlen o'r hyn rydych chi'n mynd i'w wneud a phryd yn dod â nifer o fuddion cadarnhaol.
Os nad yw popeth yn ffitio i mewn i'r diwrnod ar bapur neu sgrin, yna mae'n debyg na fydd yn ffitio i mewn i'r diwrnod mewn gwirionedd. Mae cydnabod hyn ymlaen llaw yn rhoi'r cyfle i chi fynd i'r afael â'r sefyllfa hon drwy gymryd camau cadarnhaol a blaenoriaethu mwy, yn hytrach na chyrraedd diwedd pob diwrnod yn synnu ac yn siomedig na ddigwyddodd pethau fel y dymunwn.
Gall gofid a phryder wneud i ni oramcangyfrif faint sydd angen i ni ei wneud neu gredu nad oes gennym ni ddigon o amser, pan nad yw hyn yn wir efallai. Gall cynllunio eich helpu i symud heibio’r pryderon hyn i weld realiti'r sefyllfa. Gall cael amserlen glir gynyddu eich synnwyr o reolaeth dros eich amser. Yn hytrach na chynnal y teimlad annelwig bod gennym ormod ar ôl i’w wneud neu fwy o amser nag yr ydym yn meddwl sydd gennym, gall amserlen roi sicrwydd ac eglurder i chi
Trwy wneud cynllun rydych chi'n fwy tebygol o wneud yr hyn roeddech chi ei eisiau – mae creu'r amserlen yn fath o ymarfer ar gyfer y diwrnod.
Gall amserlen hefyd amlygu a ydych yn esgeuluso pethau a fyddai o fudd i'ch gwaith academaidd neu eich llesiant.
Cydbwysedd
Gall fod yn hawdd credu mai treulio oriau hir ar eu gwaith academaidd yw’r unig beth a fydd yn cyfrannu at lwyddiant academaidd. Mewn gwirionedd, mae eich llesiant a'ch cymhelliant yr un mor bwysig ar gyfer llwyddiant academaidd.
Mae eich ymennydd yn gyhyr ac felly, yn rhan o'ch corff corfforol. Os ydych chi am iddo berfformio i lefel uchel, mae angen rhywfaint o ofal arno.
Gall dod o hyd i amser i wneud hyn fod yn anodd os oes gennych ofynion eraill sy’n cystadlu – ond cofiwch nad oes rhaid i chi fod yn byw bywyd mewn cydbwysedd perffaith i wneud gwahaniaeth. Bydd pob gwelliant bach a wnewch i'ch ffordd o fyw yn helpu. Bydd 20 munud ychwanegol o gwsg, dewis ffrwythau yn lle siocled, hydradu, taith gerdded fer ac ati yn help mawr.
Bydd cynllunio amser yn eich wythnos yn fwriadol i ofalu amdanoch eich hun yn gwneud hyn yn fwy posibl i'w gyflawni.
Gall astudio mewn cyfnodau byr helpu
Bydd gweithio'n rheolaidd yn helpu'ch ymennydd i lyncu a chofio'ch pwnc a bydd hefyd yn eich helpu i deimlo'n rhan lawn o'ch astudiaethau. Nid oes rhaid i chi weithio am oriau bob tro i'w wneud yn werth chweil. Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn dangos y gall astudio mewn nifer o flociau byr o amser fod yn fwy effeithiol. E.e. gall tri chyfnod astudio awr fod yn fwy effeithiol nag un bloc o dair awr. Gall dim ond pum munud o ddarllen erthygl neu lyfr perthnasol helpu. Os gallwch chi, ceisiwch drefnu amser i astudio ar draws yr wythnos.
Peidiwch â gweithio wrth eich desg yn unig
Nid oes rhaid i chi fod wrth eich desg yn syllu ar sgrin neu lyfr i fod yn gweithio. Mae meddwl am eich pwnc yn waith ynddo'i hun Mae hyn yn golygu y gallwch chi weithio wrth wneud ymarfer corff, wrth weithio, wrth fynd â’r plant i'r ysgol neu wrth wneud gwaith tŷ. Cymerwch gysyniad rydych chi wedi'i astudio'n ddiweddar a dewch o hyd i wahanol ffyrdd o feddwl amdano – sut mae'n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau? Pryd nad yw'n gweithio? Sut byddech chi'n ei esbonio i rywun nad yw'n astudio'ch pwnc?
Drwy feddwl amdano fel hyn byddwch yn cynyddu eich dealltwriaeth, yn amlygu meysydd o’ch dysgu sydd angen eu cryfhau ac yn gwreiddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn fwy yn eich cof.
Defnyddiwch gymorth
Os ydych chi'n dal i'w chael hi'n anodd rheoli'ch amser neu os yw'ch ymrwymiadau eraill yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i amser i astudio a gofalu am eich llesiant, yna gallai cymorth yn eich prifysgol helpu. Efallai y byddwch yn gallu cael mynediad at gyllid ychwanegol, cael arweiniad ar sgiliau astudio neu gael mathau eraill o gymorth a all helpu.