Leave this site now

Dechrau yn y brifysgol ym mis Ionawr

Mae Sam Ghorayeb

Mae Sam Ghorayeb yn fyfyriwr seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd meddwl, gwyddoniaeth gognitif, a'r ffyrdd y gall ymchwil roi gwybodaeth i gefnogaeth yn y byd go iawn.

Gall dechrau yn y brifysgol ym mis Ionawr ddod â heriau unigryw, o feithrin cyfeillgarwch i ymdopi â thywydd gaeafol y DU. Dyma ganllaw ymarferol i'ch helpu i setlo’n dda, dod o hyd i'ch cymuned, a gofalu am eich iechyd meddwl o'r cychwyn cyntaf.

Pam y gall setlo i mewn deimlo'n anoddach

Fel rhywun sy'n dechrau ym mis Ionawr, gall setlo i mewn deimlo'n anoddach na’r disgwyl. Fodd bynnag, nid yw dechrau'n hwyrach yn lleihau'r profiadau y gallwch eu cael yn y brifysgol.

Mae yna gwpwl o resymau pam y gallai'r newid hwn deimlo'n fwy heriol:

Llai o ddigwyddiadau croeso

Yn aml, nid yw’r myfyrwyr sy’n dechrau ym mis Ionawr yn cael eu gwahodd i’r un faint o ddigwyddiadau croeso â’r myfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi. Gall sesiynau ymgynefino, ffeiriau glasfyfyrwyr, a digwyddiadau cymdeithasol fod yn llai amlwg, a all ei gwneud hi'n anoddach teimlo'n rhan o'r gymuned. Heb gyfnod croeso llawn, mae hefyd yn hawdd colli allan ar wybodaeth ymarferol – fel sut i gael cymorth, ymuno â chymdeithasau, neu ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol.

Mae grwpiau cyfeillgarwch eisoes wedi ffurfio.

Efallai bod gan fyfyrwyr a ddechreuodd ym mis Medi gylchoedd o ffrindiau’n barod, a all ei gwneud hi'n anoddach ymuno'n gymdeithasol – yn enwedig os ydych chi'n symud i lety lle mae pobl eisoes yn adnabod ei gilydd. Fodd bynnag, mae'r grwpiau hyn yn aml yn dal i ffurfio. Mae pobl yn symud i mewn ac allan o griwiau o ffrindiau drwy'r amser yn y brifysgol. Efallai y byddwch chi'n teimlo fel eich bod chi'n cyrraedd yn hwyr, ond mae llawer o fyfyrwyr yn dal i fod yn barod iawn i wneud cysylltiadau newydd.

Tywydd oer, tywyll

I fyfyrwyr rhyngwladol neu'r myfyrwyr hynny y mae’r tymhorau yn effeithio arnynt yn fwy, gall cyrraedd y DU ym mis Ionawr olygu bod rhaid addasu i ddiwrnodau byrrach a thywydd oerach, ac efallai bydd eu hwyliau yn newid gyda’r tymor. Gall hyn ychwanegu haen arall o anhawster at yr hyn sydd eisoes yn newid byd iddynt, gan ei gwneud hi'n anoddach teimlo wedi setlo neu'n llawn brwdfrydedd yn yr wythnosau cyntaf.

Er bod yr heriau hyn yn real, maen nhw hefyd yn hawdd eu rheoli – ac i rai myfyrwyr, gall dechrau ym mis Ionawr gynnig cyfle da iddynt newid cyflymder. Os ydych chi'n fwy mewnblyg neu os yw’n well gennych chi osgoi torfeydd mawr, gall deimlo'n llai llethol na mis Medi, gan roi'r cyfle i chi ymlacio a meithrin cysylltiadau'n fwy graddol.

Gallwch chi dal lunio eich profiad prifysgol.

Nid oes rhaid i chi ymgartrefu yn y brifysgol yn sydyn nac ar unwaith. Mae yna lawer o ffyrdd o deimlo'n fwy cysylltiedig a theimlo’ch bod yn cael cefnogaeth dda – dyma ambell syniad i chi ddechrau.

Dewch o hyd i'ch pobl

Chwiliwch am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â mis Ionawr yn benodol, neu rai sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Mae llawer o undebau a chymdeithasau myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau neu sesiynau croeso sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch a gofynnwch beth sydd ar gael – neu os nad oes dim yn digwydd, awgrymwch rywbeth. Mae'n debyg nad chi yw'r unig un sydd am gysylltu ag eraill.

Cyflwynwch eich hun

P'un a ydych chi’n byw mewn llety i fyfyrwyr, yn mynychu seminarau, neu’n ymuno â fforymau ar-lein, rhowch wybod i bobl eich bod chi'n newydd. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cofio sut beth oedd dechrau ac mae'n debyg y byddan nhw’n groesawgar. Mae cymdeithasau neu grwpiau diddordeb hefyd yn ffyrdd gwych o gwrdd â phobl yn naturiol. Yn aml mae'n haws adeiladu rhwydwaith dros ddiddordebau a rennir na cheisio ymuno â chylchoedd cymdeithasol sydd eisoes wedi'u ffurfio.

Rhowch le i chi'ch hun setlo

Cymerwch gamau bach.

Gosodwch un neu ddau nod y gallwch eu rheoli bob wythnos – fel mynychu digwyddiad cymdeithasol, ymweld â llyfrgell y campws, neu gyflwyno'ch hun i rywun ar eich cwrs. Gall eiliadau bach o gynnydd fagu momentwm a'ch helpu i deimlo'n fwy cartrefol.

Crewch eich trefn eich hun.

Hyd yn oed heb yr wythnos draddodiadol i lasfyfyrwyr, gallwch chi adeiladu strwythur i'ch dyddiau sy'n eich helpu i deimlo’ch bod wedi setlo. Cynlluniwch brydau bwyd rheolaidd, amser i astudio, amser i orffwys ac amser i wneud gweithgareddau cymdeithasol i helpu i greu ymdeimlad o gydbwysedd. Ystyriwch lunio cynllun gweithredu i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ansicrwydd posibl.

Blaenoriaethwch eich lles

Gofalwch am eich iechyd meddwl.

Os yw'r newidiadau mawr hyn yn effeithio ar eich hwyliau, ceisiwch dreulio amser mewn golau dydd naturiol pan fo’n bosibl, a chadwch yn egnïol mewn ffyrdd sy'n gweithio i chi. Gall hyd yn oed mynd allan am dro neu gymryd eiliad o dawelwch wneud gwahaniaeth. Ac os ydych chi'n cael trafferth, mae'n iawn estyn allan am gymorth – dewch o hyd i gymorth sydd ar gael yn eich sefydliad.

Siaradwch am bethau gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.

Ceisiwch beidio â chadw pethau i chi'ch hun. Gall siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo – ffrind, mentor, neu aelod o'r teulu – helpu i leddfu straen. Weithiau mae sôn am yr hyn sy'n eich poeni yn ddigon i’w leddfu.

Gall dechrau yn y brifysgol ym mis Ionawr fod yn heriol, ond gydag amser, drwy gymryd camau bach a dod o hyd i’r gefnogaeth gywir, mae'n gwbl bosibl creu profiad boddhaus.