Pan fydd myfyrwyr yn dychwelyd i'r brifysgol ar ôl gwyliau'r gaeaf, gallant weithiau synnu o ddarganfod bod perthnasoedd â ffrindiau yn ymddangos neu'n teimlo'n wahanol i'r ffordd yr oeddent yn eu cofio. Fel arfer, mae hyn yn setlo i lawr yn eithaf cyflym wrth i bawb ymgyfarwyddo â'i gilydd eto, ond weithiau efallai y bydd angen rhywfaint o addasu yn eich disgwyliadau a sut rydych chi'n ymwneud â'ch gilydd.
Mae yna nifer o resymau pam y gall perthnasoedd deimlo'n wahanol ar ôl gwyliau'r gaeaf:
Byddwch chi i gyd wedi cael profiadau gwahanol yn ystod yr egwyl a bydd y profiadau hyn yn cael effaith ar sut mae pob un ohonoch yn teimlo ac felly byddant yn effeithio ar eich ymddygiad. Gall hyn olygu bod pobl i’w gweld yn wahanol i sut yr oeddent pan welsoch chi nhw ddiwethaf.
Efallai fod rhai pobl wedi penderfynu eu bod am wneud y tymor hwn mewn modd gwahanol – efallai eu bod am ganolbwyntio mwy ar waith academaidd neu fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol newydd. Nid yw hyn yn golygu na allwch chi ddal i fod yn ffrindiau, ond efallai y bydd yn rhaid i chi addasu'r hyn rydych chi'n ei wneud gyda'ch gilydd.
Efallai na fyddwch chi neu'ch ffrindiau'n teimlo'n hapus am ddod yn ôl – mae'r tymor cyntaf yn newydd ac yn gyffrous. Efallai fod y teimlad hwnnw wedi lleihau erbyn hyn, sy’n golygu nad yw rhai ohonoch mor gyffrous i wneud pethau gyda’ch gilydd. Efallai eich bod chi neu nhw hefyd yn hiraethu am gartref.
Efallai fod eich atgofion a'ch disgwyliadau wedi newid yn ystod eich amser i ffwrdd. Nid yw ein hatgofion yn gofnodion cywir o’r gorffennol – gallant newid bob tro y byddwn yn galw’r gwybodaeth yn ôl i’n cof. O ganlyniad, efallai fod eich atgofion chi o'ch amser gyda'ch ffrindiau ag arlliw rhosod erbyn hyn. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd realiti a'ch disgwyliadau chi yn wahanol a gall hynny fod yn syndod ac yn annifyr.
Gall rhywfaint o gynllunio a chymryd rhai camau gweithredu eich helpu chi fod yn fwy ystwyth wrth wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.
Arhoswch mewn cysylltiad â'ch ffrindiau yn ystod y gwyliau
Gallech ddefnyddio pa bynnag blatfform sy’n gweithio i’ch helpu chi gadw mewn cysylltiad rheolaidd â’ch ffrindiau. Byddwch chi'n deall yn well wrth wneud hyn beth sy'n digwydd ym mywydau pawb ac efallai y bydd ailgysylltu ar ôl yr egwyl yn teimlo'n haws. Byddwch yn ymwybodol y gall amser gyda theulu olygu bod gan rai o'ch ffrindiau lai o amser i'w dreulio yn cyfathrebu â chi a cheisiwch beidio â gor-ddehongli unrhyw dawelwch.
Trefnwch dreulio peth amser gyda'ch ffrindiau prifysgol neu gyd-letywyr pan fyddwch chi'n dychwelyd
Gall cael digwyddiad wedi'i gynllunio lle gallwch chi ddod yn ôl at eich gilydd fod yn ffocws i ailgysylltu. Gall rhannu pryd o fwyd, trefnu taith, neu gael noson mewn neu allan gyda'ch gilydd fod yn ffordd o ailgysylltu'n gyflym.
Disgwyliwch gyfnod posib o ailaddasu
Weithiau mae angen amser ar bobl i addasu i fod yn ôl yn y brifysgol. Ceisiwch beidio â phoeni os yw hyn yn digwydd. Efallai y bydd yn cymryd ychydig bach o amser i deimlo'n gyfforddus eto.
Weithiau gall pethau newid
Pan fydd hyn yn digwydd, gall fod yn anodd ei dderbyn ond mae'n rhan o fywyd. Efallai y byddwch chi'n gweld bod ffrind eisiau treulio mwy o amser gydag eraill a llai o amser gyda chi, neu fod cyd-letywr i weld yn mynd allan yn aml gyda grŵp gwahanol o bobl. Er efallai nad dyna oedd bwriad eich ffrind, gall hyn deimlo fel eich bod yn cael eich gwrthod ac efallai y bydd hyn yn peri briw i’ch teimladau ac y byddwch yn ddig neu'n ofidus. Mae'n iawn teimlo fel hyn ond hefyd nid oes rhaid i chi gario'r teimladau hyn na gadael iddyn nhw bennu’r hyn rydych chi'n ei wneud nesaf.
Cymerwch amser i dderbyn sut rydych yn teimlo ac yna efallai yr hoffech feddwl am y canlynol:
Ydy grŵp ffrindiau newydd eich ffrind yn cynnig unrhyw gyfleoedd i chi? A fyddent yn eich croesawu chi pe byddech yn ymuno â nhw? Allech chi wneud rhai ffrindiau newydd fel hyn?
A oes yna bobl eraill o'ch cwmpas y gallech chi dreulio mwy o amser gyda nhw? Allech chi ddefnyddio'r amser mae eich ffrind gyda phobl eraill i ehangu eich cylch cymdeithasol?
Allech chi siarad â'ch ffrind am y newidiadau? Os felly, ceisiwch ymdrin â hyn gyda chwilfrydedd am eu meddyliau a'u teimladau wrth hefyd fynegi sut rydych chi'n teimlo am bethau. Weithiau gall datrys gwrthdaro neu densiwn mewn perthynas ei wneud yn gryfach, felly gall fod yn werth ceisio gweithio drwyddo gyda'ch gilydd.
Os ydych chi'n edrych o’r newydd ar y cyfeillgarwch – a oedd hi mor agos ag yr oeddech chi'n meddwl? Gall y tymor cyntaf greu llawer o bwysau i wneud i berthnasoedd newydd weithio. Mae grwpiau cyfeillgarwch yn aml yn symud o gwmpas yn y brifysgol ac, er y gall fod yn ofidus ac yn annifyrrol, yn y pen draw gall roi cyfleoedd i chi ddod o hyd i ffrindiau a fydd yn agosach am gyfnod hirach.
Parhewch i gysylltu â’ch teulu a’ch ffrindiau gartref. Os oeddech chi wir wedi mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn ystod yr egwyl ac yn teimlo bod y perthnasoedd hyn yn ddefnyddiol iawn, meddyliwch sut y gallech chi gadw mewn cysylltiad â'r bobl hyn yn ystod y tymor. Gallai hyn fod yn alwad ffôn yn awr ac yn y man, sefydlu sgwrs, neu hyd yn oed ymweld yn amlach.