Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Pan fyddwn ni'n profi pethau negyddol, rydyn ni'n aml yn dymuno nad ydyn nhw'n digwydd. Gall cydnabod eich teimladau helpu ond gall cymryd camau i reoli eich meddyliau a'ch teimladau eich helpu i symud ymlaen a theimlo'n well.
Pan fyddwn ni’n mynd trwy brofiadau negyddol, rydyn ni’n aml yn dymuno nad ydyn nhw’n digwydd. Fodd bynnag, mae’n anochel y bydd rhai pethau negyddol yn digwydd i ni yn ystod ein bywyd a thra ein bod yn fyfyrwyr. Gall dysgu i reoli’r profiadau hyn ein helpu i gynnal ein llesiant a gwella. Gall cydnabod eich teimladau a chymryd camau i reoli eich meddyliau a'ch teimladau eich helpu i symud ymlaen a theimlo'n well.
Mae profiadau negyddol yn aml yn cael effeithiau lluosog a all eu gwneud yn anodd eu rheoli. Gallant arwain at deimladau o siom, rhwystredigaeth, tristwch neu ddicter a gall newid yr hyn sy'n bosibl yn ein dyfodol. Gall fod yn anodd delio â hyn os oedd gennych weledigaeth glir ar gyfer eich dyfodol na all ddigwydd mwyach.
Y ddolen feddwl ‘pe bai’
Pan fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd mae'n hawdd cael eich hun ar ddolen feddwl ‘pe bai’.
Mae dymuno i bethau ddiflannu yn ymateb cwbl normal. Mae'n iawn bod yn siomedig, yn grac, yn rhwystredig neu'n drist nad yw eich profiadau yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl neu'n gobeithio amdano. Gall cydnabod mai dyma sut rydych chi'n teimlo eich helpu i ymdopi a theimlo'n well dros amser.
Fodd bynnag, mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd na fydd y meddyliau hyn yn newid pethau yn y byd go iawn. Mae angen inni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng caniatáu i ni ein hunain gydnabod sut rydym yn teimlo a chynllunio ar gyfer yr amgylchiadau gwirioneddol yr ydym ynddynt. Mae'n rhaid i ni weithio gyda realiti fel y mae, i wneud pethau'n well.
Dod o hyd i gydbwysedd rhwng teimlo a chynllunio
Gall fod yn anodd cael y cydbwysedd hwn yn iawn ar adegau. Ond gydag ymarfer a dyfalbarhad, byddwch yn gallu dod o hyd i gydbwysedd gwell dros amser.
Dyma rai awgrymiadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
1. Peidiwch â chnoi cil gormod
Byddwch yn ofalus nad yw cydnabod eich emosiynau a'ch meddyliau yn troi'n gnoi cil.
Mae cnoi cil yn digwydd pan ddaw llawer o feddyliau negyddol at ei gilydd neu pan fyddwch chi'n troi a throi o gwmpas yr un meddyliau negyddol, heb chwilio am unrhyw atebion. Yn gyffredinol, mae hyn yn gwneud i chi deimlo'n waeth ac yn ei gwneud yn anoddach meddwl yn glir ac yn gadarnhaol am y dyfodol.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol oedi a gofyn i chi’ch hun “Sut mae hyn yn fy helpu i?" Os byddwch chi'n cael eich llethu gan eich emosiynau, efallai y bydd o gymorth i chi gymryd hoe, newid eich amgylchedd neu ddod o hyd i ffyrdd o dynnu eich sylw nes eich bod chi'n teimlo'n dawel. Yna, gallwch geisio cynllunio beth allech chi ei wneud.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi neilltuo cyfnod o amser, bob dydd neu bob wythnos, i gydnabod y pethau sy’n peri siom neu’n peri gofid. Gall gosod ffenestr wedi'i hamseru helpu i osgoi eich emosiynau rhag rheoli eich ymddygiad yn llwyr. Os rhowch gynnig ar hyn, efallai y byddai'n ddefnyddiol cael gweithgaredd cadarnhaol arall i fynd iddo wedyn.
Efallai y byddwch hefyd am ofyn i ffrind i'ch cefnogi i gnoi cil llai. Gallech chi ofyn iddo nodi pan fydd yn sylwi eich bod chi’n cnoi cil a gofyn iddo’ch annog i feddwl am y sefyllfa’n wahanol, os ydych chi’n poeni na fyddwch yn sylwi pan fyddwch yn cnoi cil.
2. Cydnabod elfennau cadarnhaol
Meddyliwch am yr hyn sy'n dal yn dda yn eich bywyd ac am fod yn fyfyriwr. Pa bynnag gynlluniau yr ydych wedi'u colli neu siom yr ydych wedi'i brofi, bydd pethau nad ydynt wedi'u heffeithio. Allwch chi ddefnyddio'r agweddau hyn ar eich bywyd a'ch dyfodol i adeiladu arnynt?
Ceisiwch nodi rhai agweddau ar eich bywyd y gallwch chi eu mwynhau. Gall hyn ymwneud â chymdeithasu, dysgu, profiadau newydd neu ddychwelyd i drefn gyfarwydd.
3. Gwnewch gynllun
Byddwch yn realistig am yr hyn y gallwch ei wneud. Ceisiwch osgoi cynlluniau sydd wir yn gobeithio newid y gorffennol a chanolbwyntiwch yn lle hynny ar gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i wella eich profiad o ddydd i ddydd.
Meddyliwch yn fras am eich bywyd myfyriwr ond hefyd am sut rydych chi'n rheoli'ch hun, eich meddyliau a'ch ymddygiadau eich hun a beth allwch chi ei wneud dros eraill.
4. Gofalwch am y pethau sylfaenol
Gall gofalu am hanfodion eich llesiant eich helpu i deimlo'n well. Mae hyn yn cynnwys: