Leave this site now

Realiti anhysbys myfyrwyr trawsryweddol Du Asiaidd ac ethnig leiafrifol

Mae X (nhw)

Mae X (nhw) Myfyriwr-ymchwilydd israddedig a chynghorydd, sy’n astudio ym Mhrifysgol Nottingham. Maen nhw’n eirioli dros iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac yn gweithio ar brosiectau ymchwil sy'n mynd i'r afael â hyn yn ogystal ag ymchwil sy'n gysylltiedig â'u gradd.

Mae'r erthygl hon a ysgrifennwyd gan X, myfyriwr du anneuaidd, sy'n trafod eu taith fel person du traws, a'r heriau y maent wedi'u hwynebu ar hyd y ffordd.

Rhagymadrodd

Helô. X ydw i, un o'r myfyrwyr sy'n gweithio ar gynnwys y pecyn hwn. Roedd yr erthygl hon yn rhywbeth roeddwn i wir eisiau ei rannu, gan fy mod yn ystyried fy hun yn rhyweddhylifol, a hefyd yn unigolyn Du Prydeinig. Rydw i’n dod o Nigeria a phan oeddwn yn dod i oed, dysgais yn gyflym iawn ei bod yn annerbyniol i fod yn berson LHDTC+ yno. Ni fyddaf yn rhannu’r manylion â chi, ond er mwyn aros yn ddiogel bu'n rhaid i mi ddod yn gyfarwydd â chuddio fy ngwir rywioldeb a rhywedd.

Y ffeithiau: Roedd adroddiad HEPI yn trafod y profiadau a wynebir gan fyfyrwyr traws ac anneuaidd ym mhrifysgolion y DU. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ddemograffig ddefnyddiol o arolwg UCAS (2021), yn manylu ar nifer yr ymgeiswyr traws ar draws nodweddion amrywiol. Ymhlith y myfyrwyr traws a ymgeisiodd am addysg uwch, nododd tua 16% ohonynt eu bod yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol. Mae'r ystadegau'n dangos nad oes cyfran sylweddol o fyfyrwyr traws sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, ac fe wnaeth hynny hefyd fy ysgogi i ysgrifennu'r erthygl hon.

Rydw i’n bwriadu rhannu fy nhaith a sut rydw i wedi llwyddo ymdopi dros y blynyddoedd, ond peidiwch â chymryd fy erthygl fel llawysgrif sy’n addas i bawb. Yn anaml y bydd profiad personol yn berthnasol i bawb, ond yn enwedig yn yr achosion hyn; mae pob unigolyn yn wahanol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol. O ble rydw i'n dod, ni chaniateir bod yn hoyw, ond hyd yn oed wedyn, gall rhai teuluoedd o Nigeria fod yn fwy cyfeillgar i unigolion LHDTC+, fel y gallai rhai unigolion De Asiaidd a Latino. Mae'r erthygl hon yn sôn am fy mhrofiadau personol yn tyfu i fyny a sut y gwnes i ddelio â’r ffaith bod fy nhreftadaeth yn gwrthdaro â’m hunaniaeth. Rydw i’n gobeithio bod unrhyw un sy'n gallu uniaethu â’m profiadau yn darllen hwn, ac yn dysgu, gobeithio, bod pethau’n gallu bod yn wael ar adegau ond, gyda’r cymorth cywir a’r bobl gywir o’ch gwmpas, gall pethau wella.

Fy Nhaith

Dydw i ddim yn mynd i'ch diflasu gyda'r manylion, ond fe wnes i sylweddoli fy mod i’n ddeurywiol (yn ddiweddarach sylweddolais fy mod yn banrywiol) pan oeddwn i’n 10 mlwydd oed. Cefais fy nychryn, gan fod hyn ddegawd yn ôl pan oedd pobl yn dal i fod yn eithaf homoffobig, yn enwedig ar-lein. Gwnes i wneud yn siŵr i ddweud wrth ddau o bobl yn unig, ac roedd y ddau ohonynt yn ddeurywiol hefyd. Cefais fy magu yn Gristion/Catholig ac roeddwn i’n mynd i’r eglwys yn wythnosol ac yn mynychu ysgol gynradd Gatholig ar y pryd. Nid y Gatholigiaeth yn unig oedd yn fy nychryn. Dechreuais bryderu, pe bai rhywun yn yr ysgol yn dod i wybod un diwrnod, byddai fy nheulu yn dod i wybod hefyd gan fod gen i ddau sibling iau. O'r adeg honno, roeddwn i’n gwybod ei bod yn well ei gadw'n gyfrinach, a hyd yn oed ceisio argyhoeddi fy hun nad oedd yn wir.

Es i ymlaen i ysgol uwchradd Gatholig, lle ffugio bod yn fenyw cisryweddol a bennwyd yn fenyw adeg geni (AFAB) oedd y gorau y gallwn i ei wneud. Cefais fy mwlio am bethau eraill bryd hynny, ac yn bendant doeddwn i ddim eisiau ychwanegu bod yn hoyw at y rhestr, ac nid oeddwn am i'm teulu gael gwybod am hynny. Gwnaeth un person, a oedd yn fachgen hoyw ar y pryd, rannu’r ffaith hynny a chafodd ei fwlio a’i arteithio am flynyddoedd, a’i stelcio hefyd ar adegau, gan bobl o’n hysgol. Doeddwn i erioed wedi cael y dewrder i wneud hynny, a gwnes i ei atgoffa’n gyson fy mod i’n hynod falch ohono, ond mor flin o’r ffaith bod pobl erchyll yn ein hysgol yn ei drin yn y fath fodd. Yn yr ysgol roeddwn i’n “Brif Swyddog y Merched”, yn arwain cyngor y myfyrwyr, ac yn fyfyriwr a oedd yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, ond roedd yr holl amser yr oeddwn wedi’i dreulio yn gweithio’n agos gyda’r ysgol o dan hunaniaeth ffug, lle gwnes i guddio cryn dipyn am fy hun.

Daeth fy amser yn yr ysgol uwchradd i ben yn sydyn o ganlyniad i'r pandemig yn 2020. Roedd y cyfnod clo yn fendith ac yn felltith i mi, gan mai ysgol oedd fy nihangfa oddi wrth fy nheulu. Daeth y fendith pan dreuliais i fwy o amser ar y rhyngrwyd. Roeddwn i’n hoffi “byw o dan graig”, ac mae hynny’n wir hyd yn oed nawr, gan nad oes gen i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a dydw i ddim yn hoff o ryngweithio â phobl. Dechreuais ddefnyddio Instagram a Discord yn fwy, lle des i o hyd i bobl LHDTC+ eraill ar-lein a theimlais yn gyfforddus i fod yn fwy agored am unwaith. Roeddwn i’n fwy agored i wahanol bethau fel cerddoriaeth amgen, ac enwogion nad ydynt yn cuddio’r ffaith eu bod yn hoyw, a darganfyddais hunaniaeth ac esthetig a oedd yn gweddu’n dda i mi. Dyna pryd y dysgais fod fy rhywioldeb yn cyd-fynd orau â phanrywioldeb, ac efallai fy mod yn drawsryweddol. Erbyn hynny, roeddwn i eisoes wedi newid fy enw, am fod yn gas gen i’r enw a bennwyd imi adeg geni erioed am ei fod yn rhy “ferchetaidd” ac nid oedd yn gweddu’n dda i mi. Newidiais fy enw ar Instagram heb ddweud wrth unrhyw un, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno newidiais fy rhagenwau hefyd, ond roeddwn i’n rhy ofnus i'w hychwanegu at unrhyw gyfryngau cymdeithasol rhag ofn bod unrhyw aelod o’m teulu neu hen gyd-ddisgyblion yn eu gweld. Arhosais felly am ychydig, ond erbyn i mi ddechrau yn y coleg, roedd dweud wrth bobl am fy rhywioldeb yn teimlo’n llai brawychus. Roedd gen i steil arbennig, a dechreuais fynegi fy hun yn ddirwystr, felly er nad oeddwn yn gwisgo bathodynnau gyda’m rhagenwau arnynt na baneri, roeddwn i eisiau i bobl o’r un oedran â fi edrych arnaf a chwestiynu a oeddwn i’n heterorywiol ai peidio. Roeddwn i wedi cael hen ddigon o ffugio, a oedd yn arwain at lawer o helbulon.

Wnes i ddim dweud wrth lawer o bobl am fy hunaniaeth rhywedd yn y coleg, oherwydd ni allwn byth benderfynu pa mor ddiogel oedd hi i wneud hynny. Deuthum yn fwy cyfarwydd â siarad yn ddidaro am y ffaith fy mod i’n cael fy nenu at bobl o bob rhywedd, ac roedd y rhan fwyaf o bobl y gwnes i gyfarfod â nhw yn y coleg yn gwiar mewn rhyw ffordd. Roedd llawer o'r bobl roeddwn i'n eu hadnabod yn bobl wyn nodweddiadol, yn lled agored o ran eu rhywioldeb, ac yn gyfforddus gyda'u teuluoedd yn gwybod, ond roeddwn i'n adnabod llai o bobl o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac roedd y rhai roeddwn i'n eu hadnabod yn cuddio eu hunaniaeth hefyd. Roeddwn i'n ofni dweud wrth bobl eraill o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol fy mod i'n hoyw ac yn draws, ac ni soniais erioed am unrhyw beth yn ymwneud â materion LHDTC+ oni bai fy mod i’n 100% yn sicr eu bod nhw’n berson LHDTC+ neu’n berson nad yw’n homoffobig/trawsffobig mewn unrhyw ffordd. Roedd pobl yn fy adnabod yn bennaf fel yr enw sydd orau gennyf ac eithrio'r bobl a oedd yn fy adnabod o'r ysgol uwchradd. Cyn i mi ddechrau yn y coleg, anfonais neges e-bost atynt yn gofyn i gael newid fy enw i'r hyn sydd orau gennyf. Roedd yn rhaid i mi dderbyn defnyddio fy hoff enw mewn cromfachau, felly roedd pobl yn dal i ddarganfod fy enw go iawn yn achlysurol, yn enwedig ar Microsoft Teams yn ystod yr ail gyfnod clo. Gwnes i gyfarfod â llawer o wahanol bobl yn y coleg, ac er bod rhai yn gwybod fy hen enw, roedd llawer o bobl yn hapus i fy ngalw wrth yr enw oedd orau gennyf. Dywedais wrth fy nheulu mai dim ond llysenw ydoedd (dewisais yn fwriadol enw a fyddai'n gwneud synnwyr o ystyried yr enw a bennwyd imi adeg geni) ac roedden nhw i gyd yn meddwl ei fod yn rhyfedd a doeddwn nhw fyth yn defnyddio’r enw hwnnw. Roedd yn rhaid i mi oddef hynny, ac nid oedd fy amgylchedd teuluol yn arbennig o gadarnhaol, felly daeth y coleg yn ddihangfa newydd lle gallwn fod y person roeddwn i am fod o gwmpas fy ffrindiau. Ar y pwynt hwn, nid oedd yn hysbys yn gyhoeddus fy mod yn berson draws oni bai fy mod wedi dweud wrth bobl, gan mai dyna pryd y sylweddolais fy mod ar y sbectrwm anneuaidd (rhyweddhylifol). Roedd y ffordd roeddwn i’n edrych yn cyd-fynd â hyn, a phan oeddwn i'n gwisgo mewn ffordd wrywaidd roedd fy mam wastad yn rhoi stŵr i mi.

Roedd gan y ddinas y cefais fy magu ynddi Bentref Hoyw yn ogystal â phoblogaeth amrywiol yn llawn pobl Ddu, pobl amgen, a phobl LHDTC+. Oherwydd yr holl ofn, roedd gen i un neu ddau o ffrindiau Du a oedd yn gwiar ac yn niwrowahanol, a neb arall. Roedd yn amhosibl i mi deimlo'n ddigon diogel i ddweud wrth bobl am fy rhywioldeb, oherwydd cymerais yn ganiataol, pe baent wedi cael eu magu fel person crefyddol, gyda rhieni llym, eu bod yn fwy na thebyg yn drawsffobig. Rwy'n cydnabod pa mor broblemus yw hynny, ond er diogelwch nid oeddwn am ei fentro, nac wynebu unrhyw wahaniaethu anffafriol.

Roedd y pentref hoyw yn un o fy hoff lefydd i fynd iddo, gan fy mod yn teimlo'n ddiogel ac yn rhydd. Oherwydd fy nghartref teuluol, bu’n rhaid i mi symud i brifysgol ymhellach allan, lle a oedd yn llai amrywiol, er nad oeddwn yn gwybod ar y pryd beth i’w ddisgwyl. Cyn mynd i’r brifysgol, fe wnes i eillio fy ngwallt heb ganiatâd fy mam, oherwydd roeddwn i'n ei gasáu, ond hefyd roeddwn i eisiau edrych yn fwy androgynaidd. Roedd fy mam yn gandryll, ond roeddwn i'n 18 oed a doedd dim llawer y gallai hi ei wneud. Deuthum i'r brifysgol a theimlais mor hapus y gallwn, am unwaith, wisgo laniard enfys, gwisgo'r ffordd roeddwn i eisiau heb gŵyn, a mynegi fy hun yn rhydd. Roedd fy adran yn gyfeillgar iawn i bobl LHDTC+, ac o fewn y pythefnos cyntaf cwrddais â phobl newydd a oedd yn drawsryweddol. Ychydig iawn o bryder oedd ar y campws ynghylch homoffobia, er nad oeddwn yn teimlo'n gyfforddus yn gwisgo bathodynnau gyda fy rhagenwau arnynt neu'n dweud wrth bobl am fy rhywedd oni bai fy mod yn cael fy annog i wneud hynny. Daeth cuddio fy hen enw yn haws fyth, er fy mod yn dal i gael trafferth gyda gweinyddiaeth a phethau'r llywodraeth. Deuthum yn llawer mwy cyfforddus ynglŷn â chywiro pobl ar ba enw oedd yn well gen i dros negeseuon e-bost ond, mewn lleoedd fel yr ysbyty a'r meddyg teulu, es i i’r arfer o bobl yn cyfeirio ataf yn gyson wrth yr enw a bennwyd i mi adeg geni. Hyd heddiw, rwy'n dal i'w chael hi'n anodd cywiro pobl wyneb yn wyneb. Diolch i fy nheulu, rwy'n gwneud yn siŵr nad yw fy rhagenwau yn cael eu harddangos yn unman rhag ofn iddynt ddod i wybod rywsut, ac wrth i mi ysgrifennu'r erthygl hon, bu'n rhaid i mi gadw fy hun yn ddienw er diogelwch. Er y gallaf fod agored o ran fy rhywioldeb yn y brifysgol, allwn i byth eirioli dros fyfyrwyr LHDTC+ oherwydd yr ofn hwnnw. Serch hynny, rwyf wedi cyfarfod â phobl anhygoel, pobl drawsryweddol a chynghreiriaid, sydd wedi fy nerbyn i am bwy ydw i, a byddaf bob amser yn gwerthfawrogi hynny.

Fel y soniwyd o'r blaen, nid yw'r ddinas rydw i'n byw ynddi nawr mor amrywiol, yn enwedig fy mhrifysgol. Er gwaethaf y ffaith fy mod yn rhyngweithio llai â phobl Ddu o fy oedran i, mae fy nhreftadaeth yn hynod o bwysig i mi. Cefais fy magu yn bwyta bwyd Nigeria, yn treulio amser gyda’m teulu o Nigeria a ffrindiau’r teulu, ac roeddwn i mor gyfarwydd â’r ffaith bod fy hen ddinas yn llawn bobl o wahanol gefndiroedd ethnig. Roedd bron fel sioc ddiwylliannol pan symudais i'r brifysgol, a hyd heddiw mae'n fy nhristáu nad yw rhai pethau fel cynhyrchion Affricanaidd yn hawdd eu cyrchu, ac nid oes cymaint o academyddion o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (roedd llai nag 1% o ysgolheigion yn Ddu yn 2024). Roedd yn fy nhristáu am sbel, gan fy mod yn gymdeithasu gyda myfyrwyr traws y gallwn uniaethu â nhw, ond ychydig iawn o fyfyrwyr Du. Roedd yn teimlo fel bod rhan ohonof ar goll, ac ni allwn siarad â neb amdano oherwydd ni fyddai neb o fy nghwmpas yn deall. Rydw i’n cofio teimlo hiliaeth wedi’i mewnoli, a gwahaniaethu yn erbyn fy hil pan oeddwn yn iau, ond erbyn coleg deuthum yn llawer mwy cyfforddus gyda lliw fy nghroen. Roedd cael fy amgylchynu gan ychydig iawn o bobl Ddu ar fy nghwrs wedi gwneud i mi deimlo felly unwaith eto, ac yn sydyn roeddwn i'n teimlo'n unig. Roedd yn teimlo fel nad oeddwn yn “perthyn”, fel fy mod yn rhywun o'r tu allan. Roeddwn i'n Ddu, yn anneuaidd, yn banrywiol, ac yn niwrowahanol, ac roeddwn i'n teimlo'n hynod o unig am lawer o fy amser yn y brifysgol oherwydd roeddwn i'n cael trafferth gyda chymaint, gydag ychydig iawn o bobl y gallwn i uniaethu â nhw. Efallai nad yw’r materion hyn yn ymddangos yn llawer i’r rhan fwyaf o bobl, ond fe wnaethon nhw effeithio llawer arna i, yn union fel pan oeddwn i’n blentyn. Dychmygwch gerdded i mewn i ystafell yn llawn o bobl, ac yn cyfrif faint o bobl Ddu sydd ynddi. Os nad oes rhai, rydw i’n teimlo fel nad ydw i’n perthyn ar unwaith. Os oes o leiaf un person Du, rydw i’n teimlo'n hapus dros ben, ond yn drist nad oes rhagor. Dydw i ddim yn un i drafod fy hunaniaeth LHDTC+ yn agored gan fod pobl fel arfer yn dyfalu, felly daeth cymdeithasu â phobl Ddu yn rhywbeth y gwnes i’n fwy yn y brifysgol er mwyn teimlo'n fwy cyfforddus gan nid fi oedd yr unig un oedd yn teimlo fel nad oedden nhw yn perthyn, yn enwedig mewn prifysgolion neu gynadleddau mawreddog. Roedd fel petai i'r gwrthwyneb i'r hyn roedden nhw yn yr ysgol uwchradd. Roedd y ffaith fy mod i’n hoyw yn hysbys, ond roeddwn i'n teimlo cywilydd i fod yn berson Du.

Mynd adref am y gwyliau oedd fy ffordd o gofleidio fy niwylliant, bwyta bwydydd Nigeria a chlywed fy mamiaith. Roedd hefyd yn golygu bod yn rhaid i mi esgus bod yn cisryweddol ac yn heterorywiol eto. Mae gen i deulu yn byw mewn gwahanol wledydd ac wrth ymweld â nhw yr un profiad ydyw. Mae fy mhersona yn newid, mae rhai pethau na allaf eu gwisgo, rydw i’n cael stŵr am beidio ag edrych fel merch a chael tyllau corff, ac rydw i’n cael fy ngorfodi i ymddwyn mewn ffordd arbennig. Mae cuddio cydberthnasau yn hanfodol ac, i’m teulu, y rheswm nad oes gen i gariad yw oherwydd fy mod yn canolbwyntio ar fy addysg a fy ngwaith. Rydw i wedi bod mewn perthynas â thri o bobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni heb i’m teulu wybod, a deuthum mor gyfarwydd â chuddio popeth, hyd yn oed pan fyddaf mewn perthynas â pherson a bennwyd yn ddyn adeg geni (AMAB), rydw i’n dal i guddio’r ffaith honno beth bynnag. Dydw i ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond mae byw bywyd dwbl wedi dod yn reddf ail natur i mi nawr. Mae'n anodd, ac rydw i'n gobeithio y bydd pethau'n wahanol un diwrnod. Ar hyn o bryd, mae gen i ddau ffrind Du anhygoel nad ydyn nhw'n draws, ond yn gynghreiriaid gwych, sy'n cuddio eu hunaniaeth rywiol rhag eu teulu hefyd, felly rydyn ni i gyd yn deall ein gilydd, yn ogystal â ffrind traws anhygoel rydw i wedi'i adnabod ers y flwyddyn gyntaf. Diolch iddyn nhw, rydw i wedi teimlo’n llawer llai unig yn y brifysgol.

Cyngor

Mae hynny’n cloi fy nhaith, o fod ofn y gair “hoyw” i fyw bywyd dwbl. Er bod hyn yn flinedig, dwi wedi dod i arfer ag e nawr. Rydw i’n gwybod bod llawer o bobl yn mynd drwy’r un peth, yn ôl pob tebyg, ac rydw i’n meddwl ei bod yn bwysig nodi na ddylai byth fod unrhyw bwysau i wneud eich rhywioldeb yn hysbys i bobl os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Mewn byd delfrydol, ni ddylid rhoi pwysau ar bobl i gadw eu rhywioldeb yn gyfrinach, ond mae hynny'n llawer haws dweud na gwneud!

  • Ni waeth sut rydych chi'n uniaethu neu'ch cefndir ethnig, byddaf bob amser yn annog pobl i fod yn gyfforddus yn eu croen eu hunain.

  • Mae rhai pobl yn ffynnu trwy fod yn gwbl “agored o ran eu rhywioldeb”, ac mae eraill yn teimlo'n fwy cyfforddus a diogel yn cadw hynny’n gyfrinachol nes ei bod hi'n amser sy’n iawn iddyn nhw. Os gallwch chi ddod o hyd i’r ateb sy’n gywir i chi, penderfynwch eich hun i ba raddau yr ydych am wneud hynny'n hysbys, heb i bobl eraill ddylanwadu ar y penderfyniad hwnnw.

Mae’r cysyniad o “deulu a ddewiswyd” yn un eithaf poblogaidd, oherwydd efallai na fydd eich teulu’n gefnogol i’ch hunaniaeth.

  • Er efallai nad yw hyn yn wir am bob myfyriwr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, i’r rhai nad oes ganddynt deuluoedd cefnogol, cofiwch mai'r teulu yr ydych wedi'i ddewis ddylai fod y rhai mwyaf cefnogol a chroesawgar.

  • Mae'r erthygl hon yn cynnwys ymchwil i ffoaduriaid LHDTC+ a'u teuluoedd biolegol o’u cymharu â’u teuluoedd a ddewiswyd ganddynt.

  • I mi, er gwaethaf y ffaith bod gen i deulu anghefnogol, mae dod o hyd i bobl sy'n fy ngharu, yn fy anwylo, ac yn fy nerbyn am bwy ydw i wedi gwneud fy nhaith yn llawer haws.

  • Amgylchynwch eich hun gyda phobl felly, oherwydd mae pawb yn haeddu cael eu caru a'u gwerthfawrogi ar derfyn y dydd.

  • Mae'r ffrindiau y soniais amdanynt yn gynharach yn y brifysgol wedi fy nghefnogi ac wedi bod wrth fy ochr waeth beth, ac mae'n rhoi'r cydbwysedd hwnnw i mi rhwng fy mywyd teuluol a fy mywyd yn y brifysgol.

Mae'n anodd delio ag aelodau o'r teulu nad ydynt yn gefnogol weithiau, ac er nad oes gen i fawr o brofiad o ddweud wrthyn nhw am fy rhywioldeb, rydw i wedi treulio blynyddoedd lawer yn ei guddio, sy'n dod â'i feichiau ei hun. Am gyngor ynghylch hunanofal:

  • Cydbwysedd yw’r peth pennaf i mi. Yn yr ysgol uwchradd, daeth cuddio yn llethol dros ben. Mae gennych chi wahanol rannau o fywyd sy'n teimlo fel pe baent mewn darnau, ond wrth i mi heneiddio fe wnes i wella ar uno pethau gyda'i gilydd, wrth aros yn ddiogel

  • Mae seibiannau yn bwysig, i ffwrdd o’r teulu a chymunedau LHDTC+. Gall fod yn faich canolbwyntio cymaint ar eich hunaniaeth a'ch cefndir. Yn y pen draw, rydych chi'n fod dynol fel pawb arall. Boed yn Asiaidd, yn Ddu, yn hoyw, yn drawsryweddol, neu’n anneuaidd, gall y labeli hyn weithiau fod yn faich i'w gario, sy'n dod â mi at fy mhwynt nesaf.

  • Oherwydd fy mod yn dod o lawer o gefndiroedd ymylol, mae pobl yn disgwyl imi eirioli dros hyn yn gyson, a siarad ar ran pawb sy’n haeddu mwy o gefnogaeth nag y gallent fod yn ei chael. Ond cofiwch bob amser nid ydych yn cael eich gorfodi i fod yn ymgyrchydd, a dim ond hyn a hyn y gallwch chi ei wneud.

  • Gall y pwysau a’r baich a ddaw yn sgil hyn waethygu eich iechyd meddwl a’ch llesiant eich hun. Ni waeth beth, dyna sy'n dod gyntaf, yn ogystal â'ch iechyd cyffredinol.

  • Yn yr adran cyfeirio, gallwch weld dolenni i ragor o gymorth a chyngor gan Meddyliau Myfyrwyr / Cornel Myfyrwyr, yn ogystal â chyngor ar sut i gael cymorth yn eich sefydliad eich hun.

O ran fy ngolwg, rydw i’n dal i wisgo'r ffordd rydw i eisiau gyda chwynion a sylwadau yma ac acw. Mae fel bod yn fwy mynegiannol yn araf bach wrth i amser fynd heibio ac wrth i chi fynd yn hŷn. Rydw i’n deall bod diwylliant Nigeria yn hynod wahanol, ac rydw i’n ei gofleidio er gwaethaf y homoffobia a'r trawsffobia sydd yn rhan ohono.

  • Am gyfnod, roeddwn i'n casáu fy niwylliant oherwydd y ffordd y mae unigolion LHDTC+ yn cael eu trin, ond rydw i wedi dysgu ei fwynhau'n fwy a dysgu pethau newydd amdano i gryfhau fy nhreftadaeth ac i fwynhau presenoldeb fy nheulu yn fwy.

  • Fe wnaeth hyn hefyd fy helpu i ddod yn falch o'r ffaith fy mod i’n dod o Nigeria, ac rydw i wir yn argymell eraill i'w wneud.

  • Bydd eich ethnigrwydd bob amser yn aros gyda chi ac mae cefnu ar fy ngwreiddiau yn teimlo fel colli rhan ohonof fy hun, er gwaethaf y gwrthdaro.

  • Efallai na fyddaf yn gallu gwisgo rhwymau o amgylch fy nheulu, nac arddangos fy rhagenwau i osgoi camryweddu, ond rydw i’n ymdopi trwy wybod, yn union fel sy'n wir o ran fy hil, y byddaf bob amser yn anneuaidd ac yn banrywiol.

  • Ni fydd hynny'n newid, ac ni ddaw unrhyw les o geisio dileu'r rhan honno ohonof fel y ceisiais ei wneud yn yr ysgol uwchradd.

Fy nghyngor olaf yw bod yn ymwybodol o ficroymosodiadau, gwahaniaethu, a throseddau casineb. Mewn byd delfrydol, ni fyddai'r problemau hyn yn bodoli, ond maen nhw'n bodoli, a gall fod yn anodd delio â nhw, yn enwedig os na allwch amddiffyn eich hun o flaen eich teulu heb beryglu eich diogelwch.

  • Os yw eich sefyllfa yn debyg i fy sefyllfa i, mae bob amser yn well sicrhau eich bod o gwmpas cynghreiriaid a mannau sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+ yn y brifysgol i leihau'r risg o unrhyw ymddygiad gwahaniaethol.

  • Os bydd unrhyw beth yn codi, ceisiwch roi gwybod i'ch prifysgol os yn bosibl. Os byddai'n well gennych aros yn ddienw, rhowch wybod iddyn nhw am hynny.

  • Mae gan rai prifysgolion gwasanaeth Adrodd a Chymorth ar gael sy'n eich galluogi i wneud hyn. Efallai y bydd gan brifysgolion eraill fesurau gwahanol ar waith.

  • Hyd yn oed os yw'r mater yn ymwneud ag aelod o staff, dylid gwneud y brifysgol yn ymwybodol o hyn. Maent wedi'u hyfforddi i barchu pob myfyriwr a'u cefndir, felly mae'n annerbyniol iddyn nhw ddangos unrhyw wahaniaethu.

  • Mae ein pecyn cynnwys yn cynnwys pob math o becynnau cymorth ac erthyglau am wahanol broblemau y gallai myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd eu hwynebu, a sut i ddelio â nhw orau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych arnyn nhw.

Cyfeirio

Mae gan Cornel Myfyrwyr becyn cymorth anhygoel sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wasanaethau cymorth amrywiol sy'n benodol i'ch prifysgol.

Ysgrifennodd myfyriwr erthygl yn y pecyn ‘Bywyd fel myfyriwr Du’, am sut i gydbwyso bod yn Ddu ac yn gwiar yn y brifysgol.

Daw'r erthygl isod hefyd o'r pecyn ‘Bywyd fel myfyriwr Du’, ac mae'n manylu ar ba mor ynysig y gall fod weithiau fel myfyriwr Du mewn addysg uwch.

Casgliad o adnoddau ynghylch unigolion Du a chwiar, yn ogystal â thudalennau cyfryngau cymdeithasol gyda ffigurau sy’n Ddu ac yn gwiar a chyfryngau sydd wedi'u teilwra ar gyfer unigolion Du ac LHDTC+. Mae'r erthygl hefyd yn cynnwys mannau diogel, digwyddiadau a chymunedau i'w harchwilio.

Mae Adrodd a Chymorth ar gael mewn llawer o brifysgolion. Chwiliwch am ‘adrodd a chymorth’ (‘report + support’) gydag enw eich prifysgol i gael gweld. Gallwch naill ai adrodd yn ddienw, neu adrodd gyda manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau pellach. Gall y gwasanaeth cymorth gynnig cyngor a gwybodaeth am bynciau penodol megis gwahaniaethu / troseddau casineb. Os oes argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai brys, ffoniwch 101, neu rhowch wybod amdanynt ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, edrychwch ar y wefan isod.

Gwiriwch gyda'ch prifysgol i weld y mathau o gymorth y maent yn eu cynnig. Mae siarad â staff sydd naill ai’n LHDTC+, neu’n gynghreiriaid i unigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, bob amser wedi bod yn ddefnyddiol, gan eu bod yn unigolion diduedd y gallwch chi rannu'r trafferthion y gallech eu hwynebu yn y brifysgol gyda nhw. Gall fod yn brofiad ynysig ar adegau, yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo bod yna frwydr rhwng eich ethnigrwydd a'ch hunaniaeth rhywedd, felly ceisiwch gymorth os yw pethau’n teimlo’n llethol. Ni ddylech fyth orfod delio â hyn ar eich pen eich hun. Fel fi, mae yna bobl eraill sy'n deall yr anawsterau, a fydd yn sicr yn cynnig clust i wrando heb ddiystyru eich problemau.

Adolygwyd ddiwethaf: Chwefror 2025