Mae gan eich corff 'brif gloc' sydd wedi'i leoli yn y celloedd yng nghefn eich llygaid. Pan fydd golau'n cyrraedd y celloedd hyn, mae'n anfon negeseuon o amgylch eich corff i helpu i reoleiddio’r canlynol:
- Cwsg
- Hwyliau
- Hormonau
- System imiwnedd
- Tymheredd y corff
- Pwysedd gwaed
- A llawer o swyddogaethau corfforol eraill
Mae hefyd yn dylanwadu pan fyddwch chi'n teimlo'n flinedig a phan nad ydych chi wedi blino. Gelwir hyn yn rhythm beunyddiol ac mae'n ailadrodd bob 24 awr yn fras. Heb ei niweidio, mae'n parhau i weithio yn llygaid pobl sy'n gwbl ddall gan alluogi iddynt ddilyn cylch deffro/cysgu naturiol. Mae faint o olau gewch chi’n hanfodol i gynnal rhythm beunyddiol arferol.
Golau haul yn erbyn ffynonellau golau eraill
Mae'r math o olau sydd ei angen arnoch er mwyn gweld yn wahanol iawn i'r math o olau sy'n rheoleiddio eich rhythm beunyddiol. Ni all y goleuadau sydd gennych yn eich tŷ, eich ystafell ddosbarth neu'ch swyddfa gystadlu â'r haul. Hyd yn oed pan fydd y tywydd yn wael, mae lefel y golau yn yr awyr agored 100 gwaith yn fwy nag ydyw dan do.
Mae tarfu ar y rhythm beunyddiol oherwydd diffyg golau haul a gormod o gyswllt â ffynonellau golau artiffisial, yn enwedig dyfeisiau sgrin, yn gysylltiedig â chwsg gwael, iselder, gorbryder a dibyniaeth, yn ogystal â salwch corfforol.
Sut mae golau'r haul yn helpu?
Cwsg
Mae dod i gysylltiad â mwy o olau dydd yn y bore yn helpu i gadw cloc eich corff yn gyson â'r diwrnod 24 awr sydd, yn ei dro, yn eich helpu i deimlo'n fwy cysglyd yn y nos ac yn fwy effro yn ystod y dydd.
Po fwyaf disglair yw’r golau dydd y byddwch yn dod i gysylltiad ag ef, y mwyaf o felatonin fyddwch chi'n ei gynhyrchu yn y nos. Bydd mwy o felatonin yn lleihau faint o amser mae'n ei gymryd i chi syrthio i gysgu ac yn arwain at gwsg dyfnach, gyda llai o darfu.
Hwyliau
Gall golau'r haul godi hwyliau, cynyddu cymhelliant, helpu gydag iselder a gorbryder ac atal Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD). Dangoswyd bod argaeledd golau'r haul yn cael mwy o effaith ar hwyliau na glawiad, tymheredd neu unrhyw ffactor amgylcheddol arall.
Fitamin D
Golau haul yw prif ffynhonnell maethynnau a elwir yn fitamin D sy'n hybu tyfiant esgyrn, yn lleihau llid, yn cryfhau eich system imiwnedd ac yn gwella swyddogaethau gwybyddol. Er y gall eistedd dan do wrth ffenest heulog gyfrannu rhywfaint at helpu i ailosod cloc eich corff, nid yw'n eich helpu i gynhyrchu fitamin D gan nad yw’r pelydrau B uwchfioled sydd eu hangen yn gallu treiddio drwy wydr.
Pwysedd gwaed is
Pan fyddwch yn dangos eich croen i olau'r haul, mae eich corff yn rhyddhau ocsid nitraidd i'ch gwaed. Mae hyn yn helpu i ostwng pwysedd y gwaed a gwella iechyd y galon.
Perfformiad academaidd
Gall dod i gysylltiad â golau'r haul wella cymhelliant a dysgu a chynyddu perfformiad gwybyddol ac amseroedd adweithio. Canfu astudiaeth a gynhaliwyd yn 2017 fod myfyrwyr sy'n cael mwy o olau haul yn perfformio'n well mewn asesiadau.
Awgrymiadau i gael mwy o olau haul
Y newyddion da ydi bod ychydig o olau haul yn mynd yn bell: yn aml mae 20 i 30 munud yn ddigonol. Gall cynnydd bach yn eich cyswllt â golau’r haul wella eich cwsg yn ogystal â'ch iechyd meddwl a chorfforol.
Dylai eich amser cyswllt ddibynnu ar ba mor sensitif yw eich croen i olau'r haul.
Dilynwch yr awgrymiadau yma i gynnwys mwy o olau’r haul yn eich trefn o ddydd i ddydd:
- Gosodwch amser deffro rheolaidd ac agorwch eich llenni neu'ch bleinds cyn gynted ag y byddwch yn codi
- Ceisiwch ymarfer y tu allan bob dydd hyd yn oed os mai dim ond mynd am dro yw hynny
- Ceisiwch fynd allan gymaint â phosib
- Os yw'n bosib, eisteddwch yn agos at ffenest. Gall pellteroedd bach hyd yn oed gael effaith ddramatig ar lefelau golau
- Ystyriwch ddefnyddio goleuadau pylu gyda'r nos os oes rhai ar gael i chi
- Ceisiwch beidio â defnyddio unrhyw ddyfeisiau sgrin am o leiaf awr cyn amser gwely. Mae hyn yn cynnwys ffonau, iPads, gliniaduron, cyfrifiaduron personol, Kindle a theledu. Ceisiwch leihau eich cyswllt â’r dyfeisiau hyn gyda'r nos
- Os gallwch, defnyddiwch fleinds neu lenni duon
- Gwrandewch ar eich corff a mynd i'r gwely pan fyddwch yn dechrau teimlo'n gysglyd.