Mae Ruth Bushiyn ysgrifennu am arian myfyrwyr a bywyd yn y brifysgol. Mae hi'n awdur sawl rhifyn o The Student Money Manual.
Pethau ymarferol i roi cynnig arnyn nhw os na fydd cyllid myfyrwyr, neu gyllid arall, yn ymestyn dros wyliau’r haf.
Pan fyddwch chi yn y brifysgol, gall gwyliau hir yr haf fod yn newid byd y mae mawr ei angen. I lawer o fyfyrwyr, fodd bynnag, mae'n creu llu o heriau newydd.
Os ydych chi wedi dod i’r arfer ag arian yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc unwaith y tymor, efallai y bydd yn rhaid iddo bara am ddwywaith cymaint yr amser er mwyn iddo bara dros wyliau’r haf hefyd. Mae costau byw cynyddol hefyd wedi creu heriau newydd, gan wasgu cyllidebau myfyrwyr.
P’un a yw hyn yn eich gadael gyda dwywaith cymaint o filiau a dim incwm ychwanegol – neu ddim arian i’w wario er mwyn ymlacio – mae’n gallu bod yn bryderus i gael deupen ynghyd.
Os ydy hynny’n wir i chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, mae yna bethau sy’n gallu ysgafnhau'r baich.
Asesu’r sefyllfa bresennol
Os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud i’ch arian chi bara drwy’r haf, llunio cyllideb yw’r cam cyntaf ar y daith.
Bydd hyn yn eich helpu chi i weld faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a sut rydych am ei wario. Os ydych chi’n brin o arian, bydd hefyd yn dangos i chi ble i ganolbwyntio eich ymdrechion chi neu eich ysgogi chi i gael cymorth.
Mae llunio cyllideb hefyd yn rhoi cyfle ichi sylwi ar unrhyw gostau diangen neu gyfleoedd i arbed. Felly, bydd unrhyw ymdrech y byddwch chi’n ei gwneud o fudd i’r pethau sydd fwyaf pwysig i chi.
Rheoli eich pryderon am arian
Os ydych chi'n profi problemau ariannol, gall pryder eich atal rhag cymryd camau cadarnhaol i wella'ch amgylchiadau. Gall rheoli eich emosiynau ynghylch cyllid fod yn gam pwysig i reoli eich arian.
Nid ydych chi ar eich pen eich hun – mae llawer o fyfyrwyr yn wynebu problemau ariannol yn ystod eu blynyddoedd yn y brifysgol. Edrychwch ar ein herthygl ynghylch poeni am arian a dewch o hyd i gymorth os oes angen er mwyn i chi allu dechrau rheoli eich sefyllfa ariannol.
Nid yw’n hawdd dod o hyd i waith ar yr adegau gorau – ac i rai myfyrwyr, bydd eu hiechyd neu eu hamodau fisa yn golygu nad yw hyd yn oed yn opsiwn. Fodd bynnag, os ydych chi'n gallu gweithio ac os nad oes gennych chi swydd yn barod, nid yw byth yn rhy hwyr i chwilio am un.
Mae nifer cynyddol o apiau yn gallu cysylltu defnyddwyr â gwaith dros dro, o waith gweinyddu ar-lein i rolau manwerthu neu wasanaethu yn y byd go iawn. Porwch trwy siop apiau eich ffôn i weld beth sydd ar gael.
Cysylltwch â chanolfannau gwaith neu dimau gyrfaoedd eich prifysgol am gyngor a gwybodaeth ynghylch chwilio am swyddi. Mae’n gallu bod yn anodd, felly gall gofyn am gyfarwyddyd a chyngor i’ch arwain chi ar y trywydd cywir helpu wrth ddod o hyd i waith pan ydych chi’n fyfyriwr.
Ystyriwch weithio i chi eich hun trwy werthu eich sgiliau a'ch doniau. Defnyddiwch wefannau ar gyfer gweithwyr llawrydd, byrddau hysbysebu swyddi ar-lein, cylchlythyrau lleol neu’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chwsmeriaid.
Nid oes rhaid i’r incwm ychwanegol ddod o swydd (neu shifftiau ychwanegol) bob amser. Ystyriwch ba hen ddillad neu eiddo gallwch chi eu gwerthu, yna gwerthwch y pethau hynny ar-lein trwy eBay, Vinted neu Facebook Marketplace, neu mewn arwerthiannau cist car neu iard flaen lleol.
Dod o hyd i gronfeydd caledi ar gyfer yr haf
Os ydych chi’n cael trafferth cael deupen ynghyd yn ystod y gwyliau hir, gwiriwch a oes gan eich prifysgol gronfa galedi ar gyfer gwyliau’r haf. Mae rhai prifysgolion yn cadw cronfa o arian ar wahân ar gyfer hyn yn unig, tra bod gan brifysgolion eraill un gronfa galedi sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn. Efallai caiff ei disgrifio hefyd fel cronfa costau byw.
Mae’r amodau ar gyfer bod yn gymwys am y cronfeydd hyn yn amrywio llawer, felly cysylltwch â'ch prifysgol yn gyntaf i weld beth sydd ar gael a sut i wneud cais.
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr, bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn disgwyl i chi wneud cais am y swm llawn cyn gofyn am grantiau cymorth mewn argyfwng, felly ymchwiliwch i hynny yn gyntaf.
Os yw eich ffydd yn golygu nad yw hyn yn bosibl, gofynnwch a fydd eich sefydliad yn gwneud trefniadau eraill. Fel arall, mae rhai sefydliadau ffydd yn cynnig eu cronfeydd caledi eu hunain, neu'n cyfeirio at sefydliadau eraill sy'n eu cynnig. Chwiliwch ar-lein neu gofynnwch i’r tîm arian yn eich prifysgol am awgrymiadau.
Fel arfer, nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr prifysgol yn gallu hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, megis Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n dod yn gymwys unwaith y bydd eich cwrs wedi gorffen. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu eu hawlio wrth astudio os nad ydych chi’n cael cymorth gan riant, os oes gennych chi blant, os ydych yn gofalu am oedolyn dibynnol, neu os oes gennych chi anabledd sy’n eich gwneud chi’n gymwys i gael budd-daliadau.
Ewch i wefan Turn2Us i roi cynnig ar y cyfrifianellau budd-daliadau a grantiau. Mae’n werth edrych arni beth bynnag fo’ch amgylchiadau.
Ces i fudd aruthrol o gael bwrsari myfyrwyr. Mae ‘na sawl fath o gyllid ar gael am gymorth, fel cronfeydd elusennau (gan gynnwys eglwysi lleol), grwpiau cyn-fyfyrwyr, a bwrsarïau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd. Cadwch lygad ar eu dyddiadau cau, ond cofiwch beidio â rhoi'r gorau iddi yn rhy hawdd!
Mae benthyg arian gan fanc neu fenthyciwr arall yn gallu bod yn atyniadol i gael deupen y llinyn ynghyd, ond tafolwch eich opsiynau i sicrhau mai hwnnw yw’r opsiwn gorau i chi ac (yn hollbwysig) nad yw’n achosi mwy o straen i chi yn y pen draw.
Mae gorddrafft 0% ar gyfer myfyrwyr, neu gerdyn credyd 0% ar gyfer myfyrwyr, fel arfer yn ffordd fwy diogel o lenwi bylchau bach. Fodd bynnag, dylech chi sicrhau eich bod yn glynu’n ofalus at reolau eich cyfrif, ac yn cynllunio ymlaen llaw er mwyn talu’r arian yn ôl.
Oni bai fod gennych chi incwm rheolaidd eich hun, megis swydd sefydlog, dylech chi osgoi cynhyrchion sydd â chosbau mwy llym, megis benthyciadau diwrnod cyflog. Hefyd, byddwch yn ochelgar rhag gor-ddefnyddio cynigion ’prynu nawr, talu wedyn‘ yn eich hoff siopau.
Os oes gennych chi ddyledion sydd heb eu talu eisoes, neu os nad ydych chi'n gymwys ar gyfer cyfrif banc ar gyfer myfyrwyr, siaradwch â’r tîm ariannol ar gyfer myfyrwyr yn eich prifysgol cyn benthyg.
Dod o hyd i wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu gan eich sefydliad addysg
Mynd i'r afael â’r pethau sy’n achosi problemau
Yn aml, mae dod o hyd i incwm ychwanegol dim ond yn un agwedd ar y problemau ariannol. Weithiau y bydd angen cyngor mwy manwl arnoch chi efallai, neu deimlo fel petaech chi’n cael eich cefnogi gan rywun. Gall tîm cyngor ariannol eich prifysgol helpu. Fel arall, mae yna lefydd i gael cymorth arbenigol gyda thai, dyled a mwy.
Cofiwch, does dim rhaid i chi fod yn berffaith wrth ddelio ag arian. Yn aml, mae gofyn am help pan fydd arnoch ei angen yw'r ffordd gyflymaf o ddatrys eich problemau ac i gael eich hun ar y trywydd iawn eto.