Leave this site now

Os ydych chi'n mynd adref dros wyliau'r gaeaf ond ddim eisiau gwneud hynny

Nid yw pob myfyriwr yn edrych ymlaen at gael mynd adref dros wyliau'r gaeaf. Gall hyn fod am amryw o resymau, ac mae'n iawn i chi deimlo fel hyn. Gall rhai strategaethau eich helpu i reoli sut ydych chi'n teimlo am hyn.

Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo rheidrwydd i ddychwelyd adref, hyd yn oed pan nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Mae'n bwysig cofio eich bod yn oedolyn a bod gennych hawl i wneud eich dewisiadau eich hun. Cymerwch amser i feddwl am y canlynol:

  • pam ydych chi'n bwriadu mynd adref?
  • a oes angen i chi fynd?
  • pam ydych chi eisiau dychwelyd adref?

Roeddwn i’n poeni am fod ar fy mhen fy hun, ond roeddwn i (hefyd) yn poeni am adael fy fflat a’r ffrindiau ro’n i wedi’u gwneud yn y brifysgol. O'r diwedd, ro’n i wedi llwyddo i addasu i fywyd prifysgol, a byddai mynd adref yn newid hynny i gyd.

Ystyried beth fydd yn digwydd

Efallai y byddai'n fuddiol i chi ystyried er mwyn pwy yr ydych chi'n mynd adref a phwy fydd yn elwa, os bydd unrhyw un. Efallai y byddai hefyd yn fuddiol i chi feddwl am ganlyniadau posibl y ddau ddewis (mynd adref ai peidio), a pha mor debygol yw’r canlyniadau hynny mewn gwirionedd.

Gall myfyrwyr fod o dan bwysau mawr, ac o dan yr amgylchiadau hyn, gall fod yn hawdd colli rhywfaint o bersbectif. Gofynnwch i chi'ch hun – a fydd bod gartref cynddrwg ag yr ydw i'n ei feddwl? A ydy fy ofnau'n rhai realistig?

Ceisiwch ystyried y canlyniadau mewn ffordd dawel a bod yn onest â chi'ch hun am y canlyniadau tebygol. Efallai y byddai'n fuddiol i chi siarad â rhywun arall am sut rydych chi'n teimlo.

Os ydych chi’n poeni am fater penodol, gallai fod yn ddefnyddiol i chi drafod hyn â’ch teulu cyn i chi ddychwelyd adref – os ydych chi’n teimlo bod hynny'n bosibl. Weithiau, gall mynd i’r afael â materion sy'n achosi gwrthdaro helpu i ddatrys problemau a chryfhau eich perthynas. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar sut i fynd i'r afael â hyn yn ein erthyglau ar wrthdaro.

Paratoi i fynd i'r afael â gwrthdaro

Lleihau effaith y gwyliau

Wedi i chi ystyried y peth, os ydych chi’n dal i deimlo y dylech ddychwelyd adref, er nad ydych chi eisiau gwneud hynny, edrychwch am ffyrdd y gallwch chi leihau'r effaith y mae'r gwyliau yn ei chael arnoch chi.

A allech chi wneud y canlynol:

  • mynd adref am gyfnod byrrach nag yr oeddech chi wedi bwriadu ei wneud yn wreiddiol?
  • rhannu eich amser gartref trwy fynd allan gyda ffrindiau neu fynd allan o'r tŷ am ychydig?

Hyd yn oed os ydych chi'n penderfynu bod yn rhaid i chi gadw at eich cynlluniau gwreiddiol, gall deall pam eich bod yn mynd adref eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth a'i gwneud yn haws i chi oroesi'r gwyliau.

Os ydych yn mynd adref, mae'n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun tra y byddwch chi yno. Ceisiwch roi amser i chi'ch hun a rhoi gwobrau bach i chi'ch hun bob hyn a hyn. Cofiwch y rhesymau pam y gwnaethoch chi benderfynu mynd adref - efallai y byddan nhw'n eich ysgogi.

Yn olaf, cofiwch mai seibiant byr yw gwyliau’r gaeaf – byddwch yn dychwelyd i’r brifysgol yn fuan, yn barod i ddechrau'r tymor newydd.

Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 2024