Cynllunio Eich Dyfodol
Gall meddwl am eich dyfodol ar ôl y brifysgol deimlo'n llethol ond does dim rhaid iddo fod. Does dim rhaid i chi gynllunio'n berffaith a gall fod yn gyffrous gyda'r ymagwedd gywir.
Gall meddwl am eich dyfodol ar ôl y brifysgol deimlo'n llethol. Mae llawer o fyfyrwyr yn dweud eu bod yn teimlo pwysau i wneud dewisiadau perffaith a'u bod yn teimlo eu bod yn gorfod cynllunio gweddill eu bywydau. Ond does dim rhaid i feddwl am y dyfodol fod yn frawychus, does dim rhaid i chi gynllunio'n berffaith a gall fod yn gyffrous gyda'r ymagwedd gywir.
Meddwl am y Dyfodol
Gall meddwl am y dyfodol deimlo'n anodd oherwydd ei fod yn anhysbys ac yn gyffredinol mae ansicrwydd yn anodd i ni. Gall hyn fod yn anos wrth i chi ddod i ddiwedd eich cyfnod yn y brifysgol, oherwydd efallai eich bod yn amsugno syniadau gan bobl o’ch cwmpas. Syniadau fel y canlynol:
- Bod angen i chi cael swydd dda ar unwaith
- Rhaid i chi gynllunio dilyniant eich gyrfa os ydych chi am fod yn llwyddiannus
- Bod yr hyn yr ydych yn dewis nawr yn pennu gweddill eich bywyd
- Eich bod mewn cystadleuaeth â miloedd o bobl eraill ac os ydych yn colli tir, fyddwch chi byth yn dal i fyny nac yn cael bywyd da
Ond y gwir yw, nad yw bywyd yn datblygu mewn llinell syth – mae'n anrhagweladwy. Ni allwn gynllunio yn union beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Ond mae hynny hefyd yn golygu nad oes rhaid i'r hyn rydyn ni'n ei ddewis heddiw bennu popeth sy'n dilyn. Cyfle arall i ddysgu a datblygu yw eich swydd gyntaf – beth bynnag a ddewiswch. Felly, gallwch chi ollwng gafael ar yr angen i gael eich penderfyniadau nesaf yn union gywir. Beth bynnag a ddewiswch, mae bywyd da yn dal yn bosibl.
Beth yw bywyd da – beth sy'n bwysig?
Wrth gwrs y mae'n bosibl y bydd llawer o'ch ffocws ar sut rydych chi'n datblygu gyrfa lwyddiannus. Ond mae'n bwysig cofio pam ein bod ni eisiau gyrfaoedd llwyddiannus – mae hyn oherwydd ein bod yn credu y bydd hyn yn ein gwneud yn hapusach ac yn fwy bodlon.
Dim ond rhan o fywyd hapus a bodlon yw gyrfa. Wrth feddwl am eich dyfodol, mae'r un mor bwysig meddwl am rannau eraill o'ch bywyd hefyd – eich bywyd cymdeithasol, teulu, yr amgylchedd y byddwch chi'n byw ynddo, eich iechyd, gorffwys a hwyl. Mae gyrfa yn rhan o fywyd cytbwys. Cymerwch amser i feddwl pa fywyd fyddai'n gwneud i chi deimlo'n hapus a bodlon a chydnabod y bydd hyn yn unigryw i chi. Efallai yr hoffech chi feddwl am y canlynol:
- Y mathau o leoedd yr hoffech chi fyw ynddynt (dinas, tref, cefn gwlad, yn y DU neu dramor)
- Y bobl rydych chi eisiau bod yn agos atynt (teulu a ffrindiau presennol, pobl â diddordebau penodol, cymuned benodol)
- Y pethau yr hoffech eu gwneud y tu allan i'r gwaith yn rheolaidd (cerdded yn y wlad, mynd i'r theatr, chwaraeon)
- Y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a fyddai'n gweithio orau i chi
Mae'n bosibl na fyddwch chi'n gallu creu'r cyfuniad delfrydol a pherffaith, wrth gwrs – ond mae meddwl am bob agwedd yn fwy tebygol o arwain at ddewis bywyd sy'n gweithio’n well i chi.
Damweiniau a gynlluniwyd
Wrth ystyried eich gyrfa, efallai y byddwch yn gweld ei bod yn fwy defnyddiol i chi ddefnyddio rhywbeth a elwir yn ddamweiniau a gynlluniwyd, yn hytrach na cheisio ei chynllunio'n fanwl. Mae hyn yn golygu eich bod yn meddwl am y canlynol:
- Y dysgu a'r sgiliau yr hoffech eu datblygu
- Y pethau sydd o ddiddordeb i chi
- Y pethau sy'n bwysig i chi
- Y pethau rydych chi'n eu gwneud yn dda
- Y pethau rydych chi'n eu mwynhau
Yna, yn hytrach na chynllunio pob cam o’ch gyrfa, rydych chi’n canolbwyntio ar y camau nesaf yn lle hynny – gan ddewis rhywbeth a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch dealltwriaeth, a fydd yn sicrhau eich bod yn gweithio ar bethau sydd o ddiddordeb ac yn bleserus i chi, sy’n bwysig i chi ac yn bethau rydych chi'n eu gwneud yn dda. Mae pob cam newydd yn ymwneud â dysgu a datblygu pellach.
Y syniad y tu ôl i ddamweiniau a gynlluniwyd yw na allwn ragweld y cyfleoedd a fydd ar gael i ni, ond os byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu mewn meysydd sy'n bwysig i ni, gallwn fod yn barod am unrhyw gyfle a ddaw. Rydych chi’n cynllunio i ddatblygu'n barhaus ac yna, gallwch achub ar y cyfleoedd hynny yr ydych yn digwydd dod ar eu traws.
Gall hyn helpu i gymryd y pwysau oddi ar y dewisiadau a wnewch – os dewiswch chi swydd nad yw'n iawn i chi, yn hytrach na gweld hyn fel problem, gallwch ei gweld fel mwy o ddysgu. Gallwch ystyried pam nad ydych chi’n ei hoffi, beth mae hynny'n ei olygu ac yna defnyddio'r dysgu hwnnw i ddewis eich cam nesaf.
Rheoli'r her o chwilio am swydd - pum awgrym ar gyfer CV a llythyr eglurhaol
Cynllunio, bod yn agored a gollwng disgwyliadau di-fudd yn rhydd
Wrth gwrs, mae'n bwysig rhoi rhywfaint o gyfeiriad i chi'ch hun – gall symud yn ddiamcan drwy eich bywyd wneud i chi deimlo'n orbryderus ac yn anfodlon. Ond nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid i chi gynllunio popeth neu y gallwch chi gynllunio popeth. Bydd llawer o lwybrau i gael bywyd hapus a boddhaus i chi. Ceisiwch ollwng syniadau di-fudd yn rhydd, sy'n awgrymu mai dim ond un ffordd sydd a chroesawu'r posibiliadau cyffrous a fydd o'ch blaen os gallwch chi fod yn agored a pharhau i ddysgu.
A pheidiwch ag anghofio, mae'n debyg y bydd eich prifysgol yn cynnig cymorth a all eich helpu i ystyried hyn.
Dod o hyd i gymorth yn eich prifysgol
Dod o hyd i gymorth yn eich prifysgol