Gareth Hughesis the Clinical Lead for Student Space and is a psychotherapist, researcher and writer on student wellbeing, including the book Be Well, Learn Well
Gall cymryd amser i adolygu sut mae pethau’n mynd eich helpu i reoli eich profiad yn y brifysgol a gwneud y gorau o fod yn fyfyriwr.
Yn gyffredinol, mae bywyd myfyrwyr yn gymysgedd o bethau cadarnhaol a negyddol, yn dda a ddim cystal. Gall cymryd amser i adolygu eich profiad eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn rydych wedi'i ennill hyd yn hyn a gall eich helpu i reoli'r cam nesaf o'ch cyfnod yn y brifysgol.
Yn gyffredinol, rydym ar ein gorau pan allwn ni gael cydbwysedd priodol yn ein bywydau. Dydy hyn ddim yn golygu ceisio gwneud popeth yn berffaith ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn, mae'n bosibl y bydd angen cydbwysedd gwahanol arnoch chi beth bynnag – er enghraifft yn ystod cyfnodau arholiadau. Ond gall gwneud mân welliannau i gael gwell cydbwysedd rhwng gwaith, eich astudiaethau, hwyl, gorffwys a gofalu amdanoch chi eich hun, eich helpu i deimlo’n well a chael y gorau o fod yn fyfyriwr.
Efallai y byddwch am feddwl am fywyd myfyriwr mewn pedwar maes:
Bywyd cymdeithasol
Mae teimlo cysylltiad cymdeithasol ag eraill yn bwysig iawn i’n llesiant – yn ogystal â chael rhywfaint o amser i chi’ch hun i orffwys, myfyrio a mwynhau eich gofod eich hun.
Bydd y cydbwysedd cymdeithasol cywir yn wahanol i wahanol bobl. Meddyliwch sut mae eich gweithgarwch cymdeithasol presennol yn gwneud i chi deimlo a ph'un a yw'n eich helpu chi. Cymerwch yr amser i ystyried y canlynol:
Faint o amser ydych chi'n ei dreulio ar eich pen eich hun a gydag eraill? A yw hyn yn teimlo'n iawn i chi neu a hoffech iddo newid?
Beth ydych chi'n treulio'ch amser yn ei wneud? Rydym yn elwa o gael cymysgedd o weithgareddau yn ein diwrnod a chael amser i orffwys. Beth yw'r cydbwysedd yn eich bywyd rhwng gweithio, ymlacio, partïo, hobïau, gwneud pethau gydag eraill ac ati?
Oes gennych chi'r nifer iawn o bobl yn eich bywyd? Cofiwch, nid yw byth yn rhy hwyr i wneud ffrindiau yn y brifysgol – mae grwpiau cymdeithasol yn symud o gwmpas yn barhaus ac mae pobl yn hapus i wneud ffrind newydd fel arfer. Os oes gormod o bobl yn cymryd eich amser, mae'n iawn lleihau hyn a blaenoriaethu'r hyn sydd ei angen arnoch chi.
Oes angen mwy o hwyl arnoch chi? Mae hyn yn bwysig, mae angen i ni fwynhau pethau yn ein bywydau. Ond yn yr un modd, mae angen i ni fod yn ofalus i beidio â gorwneud pethau.
Os yw eich bywyd cymdeithasol yn effeithio ar eich iechyd corfforol neu ddysgu academaidd, yna efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i gydbwysedd iachach. Os ydych chi eisiau gwneud hyn, gall helpu i recriwtio ffrindiau i gefnogi'r newid hwn. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld bod rhai o'ch ffrindiau hefyd eisiau arafu a gallwch chi gefnogi'ch gilydd i wneud hyn.
Os ydych, am unrhyw reswm, yn pryderu am eich bywyd cymdeithasol, cofiwch fod cymorth ar gael i'ch helpu gyda hyn.
od o hyd i wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu gan eich sefydliad addysg
Llesiant corfforol
Mae ein llesiant corfforol yn dylanwadu ar sut rydym yn teimlo a’n gallu i ddysgu a pherfformio’n academaidd. Mae'r pethau sylfaenol yn bwysig iawn – meddyliwch am unrhyw welliannau bach y gallech chi eu gwneud i wella'ch iechyd corfforol yn gyffredinol. Gallai fod o gymorth i ystyried y canlynol:
Gall fod o fudd i'ch dysgu a mwynhau'ch astudiaethau, os byddwch yn adolygu sut maen nhw'n mynd yn rheolaidd. Meddyliwch am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu hyd yn hyn – efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am yr hyn roeddech chi'n ei wybod pan gyrhaeddoch chi'r brifysgol gyntaf a'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ers hynny. Efallai y cewch eich synnu faint mae eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth wedi cynyddu.
Yna, cymerwch amser i ystyried lle y gallech fod am ddatblygu ymhellach. A oes meysydd nad ydych chi'n eu deall cystal neu a fyddai'n elwa ar ddysgu mwy o wybodaeth amdanynt? Efallai y bydd eich tiwtor personol, cynghorydd sgiliau astudio neu lyfrgellydd pwnc yn gallu eich helpu.
Efallai yr hoffech chi hefyd adolygu'r ffyrdd rydych chi'n astudio. Yn aml iawn mae myfyrwyr yn tueddu i ddod o hyd i un ffordd a chadw ato – er efallai nad dyma'r ffordd fwyaf defnyddiol. Er enghraifft, mae gwaith ymchwil yn dangos bod ailddarllen nodiadau yn strategaeth adolygu aneffeithiol, ond eto mae llawer o fyfyrwyr yn ei defnyddio fel eu prif ffordd o adolygu. Arbrofwch ar rai ffyrdd gwahanol o astudio – rhowch gynnig ar wahanol leoedd, gweithio ar eich pen eich hun a chydag eraill a defnyddio strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel profi eich hun.
Bywyd seicolegol
Sut ydych chi'n teimlo? Pryd ydych chi'n teimlo ar eich gorau? Pa brofiadau o'ch amser yn y brifysgol sydd wedi bod yn dda? Gall meddwl am y pethau hyn eich helpu i ddod o hyd i gliwiau ynghylch pa weithgareddau all eich helpu i gynnal gwell hwyliau.
Mae'n iawn os nad yw pethau wedi bod yn dda eto – nid yw'n golygu y byddwch yn parhau i deimlo fel hyn. Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld y gall cyrchu cymorth gan eu prifysgol helpu i wella pethau. Neu efallai y byddwch am siarad â theulu, ffrindiau neu'ch meddyg teulu. Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor ar y wefan hon. Os nad ydych chi'n teimlo'n dda, ceisiwch fod yn garedig â chi'ch hun a defnyddiwch y gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Sut bynnag mae eich amser yn y brifysgol wedi bod hyd yn hyn, bydd camau y gallwch eu cymryd i'ch helpu i wneud y gorau o weddill eich amser fel myfyriwr.