Mae’r erthygl hon yn rhannu ychydig am sut y gall colli rhywun i hunanladdiad deimlo’n arbennig o gymhleth a dod â’i heriau unigryw ei hun. Rydym hefyd yn rhannu rhai awgrymiadau ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol os ydych chi wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad.
Galaru am rywun sydd wedi marw trwy hunanladdiad
Rydyn ni’n tueddu i feddwl bod galar yn ymwneud â thristwch a hiraethu am rywun, ac er y gall hyn fod yn rhan o alar, fel arfer mae’n fwy cymhleth na hynny. Gall colli rhywun arwain at ystod eang o ymatebion emosiynol a chorfforol, yn ogystal ag effeithio ar eich arferion, eich perthnasoedd, eich ymdeimlad o hunaniaeth a’ch gallu i ganolbwyntio ar astudiaethau neu waith. Nid oes ffordd ‘gywir’ nac ‘anghywir’ o alaru ac nid oes amserlen.
Beth yw galar?
Emosiynau cythryblus
Mae’n normal i deimlo emosiynau dwys wrth alaru - o dristwch a thorcalon, i sioc, dryswch a theimlo’n ddiymadferth. Mae hefyd yn normal weithiau teimlo’n ddideimlad ac yn ddigyswllt.
Mae emosiynau fel euogrwydd, dicter, edifeirwch a bai, hefyd yn gyffredin iawn i’r rheini sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad. Efallai eich bod chi’n ddig wrth yr unigolyn am ei weithredoedd neu gyda chymdeithas am ‘adael i hyn ddigwydd’. Efallai eich bod chi’n teimlo euogrwydd neu edifeirwch am beidio â gwybod bod yr unigolyn yn cael trafferth, neu am beidio â gwneud mwy i’w gefnogi. Mae llawer o bobl yn chwilio am rywun neu rywbeth i’w feio, efallai fel ffordd o geisio deall y drasiedi.
Gall y poen o golli’r unigolyn gael ei waethygu wrth i chi gofio amdano neu ddychmygu’r hyn a oedd yn ei boeni. Efallai y byddwch chi’n teimlo fel eich bod chi nid yn unig yn galaru am ei farwolaeth, ond yn galaru am elfennau o’i fywyd hefyd.
Nid oes ffordd gywir nac anghywir o ymateb i golled, ac nid oes amserlen, felly ceisiwch beidio â disgwyl gormod gennych chi eich hun a byddwch yn garedig wrthych chi’ch hun. Ceisiwch dderbyn unrhyw feddyliau neu deimladau rydych chi’n eu profi fel rhan o’r broses.
Stigma, cyfrinachedd ac ofn
Mae yna lawer o stigma a chyfrinachedd o hyd ynghylch hunanladdiad a all ei gwneud hi’n anodd siarad amdano.
Mae’r ymadrodd ‘cyflawni hunanladdiad’ yn gwneud iddo swnio fel trosedd. Mae iaith yn bwysig - ceisiwch ddefnyddio’r ymadrodd ‘bu farw trwy hunanladdiad’ yn lle. Gall hyn helpu i leihau cywilydd a’i gwneud hi’n haws i’r rhai sy’n cael eu heffeithio.
Efallai y byddwch hefyd yn cael trafferth siarad amdano oherwydd eich bod yn ofni rhoi syniadau i bobl eraill sy’n cael pethau’n anodd ac arwain at niwed pellach. Mae llawer o bobl yn teimlo’n wyliadwrus iawn ar ôl cael colled trwy hunanladdiad, yn poeni nad yw’r bobl o’u cwmpas yn iawn. Neu efallai nad ydych chi’n iawn, ac yn poeni am ble y gallai hynny arwain.
Cofiwch ei bod hi’n iawn i siarad am hyn, ac mae yna lawer o leoedd y gallwch chi droi atynt am gymorth, yn eich prifysgol, yn ogystal â chyda sefydliadau allanol (gweler isod am rai awgrymiadau).
Efallai ein bod yn teimlo’n ansicr am sut i gofio ac anrhydeddu ei fywyd
Gall fod yn anodd cofio rhywun heb ganolbwyntio bob amser ar rannau poenus ei fywyd a’i farwolaeth. Efallai y byddwn yn cael trafferth ei anrhydeddu, i feddwl am atgofion hapus, ac i siarad amdano fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn normal, ond dylai ddod yn haws gydag amser ac wrth i chi fynegi a phrosesu eich galar.
Mae’n gyffredin cael perthynas gymhleth â rhywun sydd wedi marw trwy hunanladdiad, efallai oherwydd ei iechyd meddwl, neu effaith ei iechyd meddwl. Mae’n iawn cofio’r da a’r drwg - nid yw un yn dileu’r llall.
Cael cymorth
Nid yw galar yn dilyn llinell syth, ond dros amser, mae llawer o bobl yn canfod bod y dwyster yn lleddfu. Mae’n iawn os yw rhai dyddiau’n teimlo’n anoddach nag eraill - nid yw prosesu galar yn ymwneud â “gwella ohono”, ond dysgu sut i ymdopi. Mae nifer o bethau a all ein cefnogi ni drwy’r broses hon, o siarad â phobl, cofnodi eich meddyliau, treulio amser mewn natur, neu ganiatáu i chi’ch hun deimlo heb farnu.
Gallwch ddilyn y dolenni isod i weld rhai awgrymiadau ar gyfer ymdopi, neu adnoddau a sefydliadau eraill a allai eich helpu i lywio trwy uchelfannau ac isel fannau galar:
Cynghorion ar gyfer rheoli galar
- Cymorth/adnoddau ar gyfer galar ar ôl hunanladdiad:
- Os ydych chi’n teimlo’n hunanladdol: