Manteisio i'r eithaf ar flynyddoedd ar leoliad a blynyddoedd dramor

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Mae blynyddoedd ar leoliad a blynyddoedd dramor yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ehangu eich dysgu, cymhwyso eich gwybodaeth a chael profiadau newydd. Ond fel unrhyw newid, byddwch yn siŵr o wynebu heriau ar y ffordd a gall bod yn barod ar eu cyfer eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich blwyddyn.

Yn union fel dechrau yn y brifysgol, gall blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor ymddangos yn gyffrous ac yn frawychus. Rydych chi'n camu i gyfleoedd newydd, ond mae hynny'n golygu eich bod yn gadael rhywfaint o'ch bywyd cyfarwydd ar ôl am ychydig.

Hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn mwynhau bywyd myfyriwr, gall newid eich cynhyrfu o hyd <sut y gall ansicrwydd achosi straen>. Mae hynny'n iawn. Beth bynnag rydych chi'n ei deimlo, gall helpu i ganolbwyntio'ch sylw fel y gallwch wneud cynlluniau i fanteisio i'r eithaf ar eich blwyddyn. Gallai'r awgrymiadau canlynol eich helpu i ddefnyddio'r sylw hwnnw i gynllunio'n dda.

Dechreuwch ag arferion iach

Pan fyddwn yn newid ein hamgylchedd, rydym yn cael y cyfle i ailosod ein hymddygiad mewn ffyrdd sydd o fudd i ni. Bydd eich blwyddyn ar leoliad dramor yn fwy pleserus os byddwch yn cymryd camau syml i ofalu am eich llesiant arferion iach.

Bydd dechrau eich blwyddyn newydd drwy fwyta'n iach, ymarfer corff, cysgu, mwynhau golau'r haul a dilyn ffordd gytbwys o fyw yn eich helpu i deimlo'n well ac yn fwy abl i fwynhau'ch amser a dysgu mwy. Ceisiwch sefydlu trefn strwythuredig sy'n caniatáu ichi weithio, gorffwys a chael hwyl.

Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi'n gallu ei ddysgu

Pan fyddwch i ffwrdd o'ch prifysgol, gall fod yn hawdd anghofio eich bod yma i wella'ch dysgu a bod y flwyddyn hon yn dal i fod yn rhan o'ch cwrs. Yn enwedig ar leoliadau gwaith, gall fod yn hawdd cael eich dal mewn tasgau a pherfformiad o ddydd i ddydd ac anghofio eich bod yn astudio am radd. Ceisiwch gofio eich bod yn fyfyriwr o hyd a'ch bod yma i ddysgu er mwyn i chi gael cymaint â phosibl o'ch profiad. Er enghraifft:

  • Rhowch y gorau i feddwl y dylech fod yn gwybod cymaint â phawb o'ch cwmpas – efallai fod pobl eraill wedi bod yn y gweithle ers tro neu wedi bod ar brofiad gwaith am gyfnod hirach. Mae'n iawn nad ydych chi'n gwybod cymaint â nhw neu os na allwch chi wneud pob tasg yn yr un ffordd.

  • Gofynnwch gwestiynau – pan nad ydych chi'n gwybod rhywbeth, bydd yn gyfle gwych i chi ddysgu mwy. Gall gofyn cwestiynau helpu i ehangu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth.

  • Dysgwch o'ch camgymeriadau – pan fyddwn yn dysgu rhywbeth newydd, mae'n anochel y byddwn yn cael pethau'n anghywir weithiau. Unwaith eto, mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni ddysgu mwy. Ceisiwch ddysgu o'ch camgymeriadau.

  • Rhowch gynnig ar bethau – beth bynnag rydych wedi'i ddysgu ar eich cwrs hyd yn hyn, gallwch geisio defnyddio'r wybodaeth hon – boed yn y gweithle neu mewn diwylliant gwahanol. Archwiliwch ble mae'n gweithio a lle nad yw'n gweithio fel y gallwch ddefnyddio'r dysgu hwn yn nes ymlaen.

Tynnwch ar eich profiad

Rydych eisoes wedi llwyddo i drosglwyddo i'r brifysgol, felly rydych chi'n gwybod bod y sgiliau gennych i wneud hyn. Myfyriwch ar yr hyn y gwnaethoch chi ar ddechrau'r brifysgol er mwyn ei wneud i weithio – beth aeth yn dda? Beth hoffech chi ei wneud yn well y tro hwn?

Efallai yr hoffech feddwl sut y gallwch fabwysiadu dull strwythuredig o wneud ffrindiau, dod yn gyfarwydd â'ch amgylchedd ffisegol, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, a defnyddio'ch sgiliau a'ch adnoddau eich hun i'ch helpu i ymgartrefu'n gyflym.

Manteisiwch ar y cyfleoedd ond cadwch gydbwysedd

Bydd eich blwyddyn ar leoliad neu dramor yn cynnig llawer o gyfleoedd annisgwyl – gallai'r rhain gynnwys cyfleoedd i gynyddu eich profiad, cymdeithasu, teithio, neu roi cynnig ar bethau newydd. Bydd manteisio ar y cyfleoedd hyn mewn ffordd gytbwys yn eich helpu i wneud y mwyaf o'ch amser a dyfnhau eich dysgu.

Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi gytuno i wneud popeth - dewiswch y cyfleoedd sy'n iawn i chi. Ond, yn yr un modd, peidiwch â gadael i bryder neu nerfau eich rhwystro rhag derbyn cyfleoedd y byddech chi'n eu mwynhau. Wyth awgrym ar gyfer goresgyn gorbryder cymdeithasol.

‘Pan oeddwn i'n cael trafferth addasu, ysgrifennais restr o bopeth roeddwn i eisiau ei wneud dramor – ac yna fe ddywedais wrthyf fy hun ei bod yn iawn os nad oeddwn yn ei gorffen. Yn hytrach, fe es i i archwilio fesul cam, drwy fynd un stop tiwb ymhellach neu ddewis un safle newydd i ymweld ag ef bob penwythnos. Yn fuan, fe sylweddolais i nad oedd arna'i ofn mwyach. ‘

Myfyriwch yn rheolaidd

Gall cymryd ychydig o amser i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu a'r hyn yr hoffech ei wneud nesaf gynyddu eich ymdeimlad o reolaeth a dyfnhau ac ehangu eich dysgu. Gall hefyd eich helpu i gysylltu eich dealltwriaeth newydd â'r dysgu rydych chi eisoes wedi'i gael yn ystod eich astudiaeth gradd. Bydd hyn o gymorth i'ch paratoi ar gyfer blwyddyn nesaf eich gradd.

Defnyddiwch gymorth

Cofiwch, nid yw'r ffaith eich bod ar flwyddyn i ffwrdd yn golygu bod eich prifysgol wedi diflannu. Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig cymorth ar-lein neu dros y ffôn. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’r cymorth y mae'ch prifysgol yn ei gynnig yma cyfeiriadur prifysgol. Mae'n bosibl y bydd cymorth ar gael i chi yn eich prifysgol letyol hefyd neu yn eich gweithle.